Newid math o denantiaeth

Rydym yn deall bod amgylchiadau eich cartref yn newid drwy’r amser ac mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni pan mae hynny yn digwydd.
Os bydd rhywun yn symud i mewn neu’n symud allan, dylech ddweud wrthym fel y gallwn ddiweddaru ein systemau.
Weithiau, efallai byddwch eisiau gwneud newidiadau i’ch contract, fel ychwanegu deiliad contract newydd, neu ddileu deiliad contract.
Bydd y wybodaeth yma gobeithio yn egluro sut i fynd ati i wneud hyn.

Cytundeb tenantiaeth

Cytundeb tenantiaeth yw enw’r contract rhyngoch chi (cwsmer) a ni (eich landlord).

Mae’n ddogfen gyfreithiol sy’n dangos eich hawliau a’ch cyfrifoldebau.

  • Mae pawb sydd wedi’u henwi ar denantiaeth ar y cyd yn gyfrifol am dalu’r rhent a chadw at reolau’r contract.
  • Os bydd un person yn torri’r rheolau, mae pawb yn gyfrifol
  • Mae gan bob un o’r cyd-denantiaid yr un hawl i fyw yno

Ychwanegu deiliad contract

Mae ychwanegu deiliad contract yn gofyn am ganiatâd ysgrifenedig gennym ni.
Wrth ystyried a ddylid rhoi caniatâd ai peidio, byddwn yn ystyried bod pob cais yn unigol ond byddwn yn ystyried a yw’r ymgeisydd yn debygol o gydymffurfio ag amodau unrhyw gontract.

I wneud cais, lawrlwythwch ffurflen gais yma a’i dychwelyd atom.

Ffurflen gais contract ar y cyd (word)

Ffurflen gais contract ar y cyd (pdf)

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn dychwelyd atoch gyda phenderfyniad o fewn mis.

Dileu deiliad contract -gadael contract

Gelwir y broses o dynnu enw eich hun o gontract yn ‘gadael’. Gall deiliad contract dynnu eu hunain o’r contract drwy roi o leiaf mis o rybudd ysgrifenedig i ni.

Rhaid i’r ‘hysbysiad ymadael’ gael y dyddiad yr ydych yn bwriadu rhoi’r gorau i fod yn rhan o’r contract arno.

Rhaid i chi hefyd rannu copi o’r ‘hysbysiad gadael’ gyda’r holl ddeiliaid contract eraill.

Ar ôl mis o dderbyn yr hysbysiad, ni fyddwch bellach yn ddeiliad contract. Byddwch yn dal i fod yn gyfrifol am unrhyw rwymedigaethau’r contract, gan gynnwys y rhent, hyd at y pwynt hwn.

Nid yw dileu eich enw o’r contract yn peryglu y rhai sydd yn weddill ar y contract, a byddant yn parhau i fod yn ddeiliaid contract.

Newid eich enw neu fanylion eraill

Os oes newid cyfreithiol wedi bod yn eich manylion, er enghraifft ar ôl i chi briodi, mae’n bwysig eich bod chi’n rhoi gwybod i ni fel y gallwn ddiweddaru ein systemau. Bydd angen i ni weld copi o ddogfen sydd â’ch manylion newydd arni, fel tystysgrif priodas neu debyg.

Gallwch roi gwybod eich manylion newydd i ni drwy lenwi’r ffurflen isod. Os oes angen i chi roi gwybod i ni am aelod newydd i’ch teulu, neu am rywun yn symud allan, rhowch alwad i ni rannu’r manylion hynny gyda ni.

Newid eich enw

Os ydych wedi newid eich enw yn ddiweddar, rhaid i chi roi gwybod i ni, er mwyn i ni allu diweddaru eich manylion ar ein systemau.

  • Rhowch reswm pam eich bod wedi newid eich enw, er enghraifft, priodi, ysgariad, newid eich enw yn gyfreithol
  • Max. file size: 150 MB.
    Byddwn angen prawf gyda eich ffurflen i newid enw. Pethau fel tystysgrif priodas, tystysgrif ysgariad, tystiolaeth eich bod wedi newid eich enw yn gyfreithiol.