Logo'r rhestr fer

Academi Adra ar y rhestr fer ar gyfer gwobr mawreddog

Mae cymdeithas tai Adra yn dathlu ar ôl i’w menter sgiliau a chyflogaeth gyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr cyfranogiad tenantiaid mawreddog.

Mae Gwobrau Arfer Da Cenedlaethol TPAS Cymru 2023 wedi’u sefydlu i rannu, cydnabod a dathlu’r gwaith gwych a wneir gan sefydliadau tai a thenantiaid mewn cymunedau. Mae Academi Adra wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Rhaglen Cymorth/Cyngor i breswylwyr.

Wedi’i lansio ym mis Chwefror 2021, mae Academi Adra yn dod â’r ystod o gyfleoedd y gallwn eu darparu trwy Adra a’i phartneriaid ynghyd i helpu tenantiaid, a’r rhai sy’n byw mewn cymunedau, i ddatblygu eu sgiliau a dod o hyd i gyflogaeth. Gan weithio gyda phartneriaid, mae Academi Adra yn cynnig profiad gwaith, lleoliadau gwaith, prentisiaethau, hyfforddeiaethau, gwirfoddoli a llawer mwy.

Mae wedi gweithio’n llwyddiannus mewn partneriaeth â mwy nag 20 o sefydliadau a chontractwyr allanol hyd yn hyn. Mae’r bartneriaeth yn cynnwys Adra, Procure Plus, Gwaith Gwynedd, Canolfan Byd Gwaith, Fforwm Canolfan Gyswllt Cymru, Richmond Bright, Cyngor ar Bopeth, Hyfforddiant Gogledd Cymru, Grŵp Llandrillo Menai, GISDA, DU Construction Ltd, WF Clayton & Co Ltd, Wynne Construction, NWRC, Kickstart, Llywodraeth Cymru, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM, Gyrfa Cymru, Môn CF, GH James Cyf a Williams Homes (Bala). Mae nifer o gyrsiau wedi’u cynnal, gan gynnwys 6 chwrs ‘Llwybr Adeiladu’ a chwrs gwasanaeth cwsmeriaid gyda Fforwm Canolfannau Cyswllt Cymru a Llywodraeth Cymru.

Hyd yma:

  • Mae 91 o unigolion wedi cael eu cefnogi i gael hyfforddiant a/neu brofiadau gwaith
  • Mae 70 wedi cael mynediad i hyfforddiant
  • Cefnogir 30 gyda phrentisiaethau
  • Mae 12 wedi cael cymorth i gael swyddi gydag Adra neu ei gontractwyr
  • Mae 8 wedi cael profiad gwaith cyflogedig
  • Mae 3 unigolyn, dau ohonynt yn denantiaid Adra, wedi cael cynnig swyddi llawn amser yn nhîm Gwasanaethau Cwsmeriaid Adra yn dilyn hyfforddiant drwy’r Academi.

Mae Academi Adra yn ymwneud â rhoi cyfle i bawb, a chwalu rhwystrau i sicrhau bod pawb yn gallu llwyddo. Cynhaliwyd ymgyrch yn ddiweddar i annog mwy o fenywod ifanc i ymuno â’r diwydiant adeiladu a thai. Cafodd dros 65 o ferched Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes flas ar weithio yn y maes adeiladu fel rhan o ddigwyddiad o’r enw ‘Nid yn Unig i Fechgyn’. Arweiniodd Adra’r digwyddiad hwn ynghyd â Chwarae Teg, elusen sy’n ysbrydoli, arwain a gweithredu cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru.

Dywedodd Sion Hughes, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Cwsmeriaid a Chymunedau Adra: “Rydym wrth ein bodd bod y gwaith caled sy’n mynd ymlaen fel rhan o Academi Adra wedi’i gydnabod a’i roi ar restr fer y wobr fawreddog hon. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein tenantiaid a’n cymunedau i ffynnu, gan ddarparu cyfleoedd cyflogaeth yn lleol a helpu ein tenantiaid i gynyddu incwm eu haelwydydd mewn cyfnod economaidd heriol.

“Mae yna enghreifftiau gwych o ble mae unigolion wedi ymuno â’n rhaglen ac wedi dod o hyd i gyflogaeth o ganlyniad uniongyrchol. Mae hyn yn wych i’w glywed ac yn ail-gadarnhau pwrpas Academi Adra – darparu cyfleoedd i bobl wella eu sgiliau ac agor drysau ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol”.