Tŷ Gwyrddfai – Hwb Datgarboneiddio

Mae hwb datgarboneiddio, y cyntaf o’i fath yn cael ei sefydlu ym Mhenygroes.  

Mae’r datblygiad, a elwir yn Dŷ Gwyrddfai, yn brosiect ar y cyd rhwng Adra, Busnes@LlandrilloMenai a Phrifysgol Bangor a bydd yn trawsnewid hen safle Northwood yn hwb datgarboneiddio a fydd yn sicrhau bod gogledd orllewin Cymru yn flaenllaw yn yr agenda datgarboneiddio, gan weithio gyda chymunedau a busnesau i ôl-osod cartrefi dros y 10 mlynedd nesaf. 

Gweithio mewn Partneriaeth

  • Adra Tai Cyf

    Mae Tŷ Gwyrddfai eisoes yn gartref i brif swyddfa contractwr mewnol Adra sy’n cyflogi dros 150 o staff. Mae Travis Perkins hefyd wedi sefydlu depo or y stifle i ddorparu deunyddiau a chyflenwadou i ni o’n controctwyr

  • Mae Canolfan Isadeiledd, Sgiliau a Thechnoleg (Canolfan CIST), Busnes@LlandrilloMenai

    Mae Canolfan Isadeiledd, Sgiliau a Thechnoleg (Canolfan CIST) gan Busnes@LlandrilloMenai yn rheoli’r hyfforddiant yn y podiau hyfforddi ar safle yn Nhŷ Gwyrddfai.

    Mae CIST yn darparu pecynnau hyfforddi datgarboneiddio pwrpasol ac wedi’i theilwra yn ogystal â rhaglenni hyfforddi ar gyfer y sector adeiladu, yn enwedig mewn meysydd fel inswleiddio waliau allanol, gosod a gwasanaethu paneli solar, pympiau gwres ffynhonnell aer, storio batris ac ôl-osod.

    Mae rhaglenni prentisiaeth yn cael eu darparu gan Busnes@LlandrilloMenai hefyd. 

    Mae Hyfforddiant Net Sero Training Gwynedd yn darparu hyfforddiant sy’n arwain y sector mewn datgarboneiddio, ynni adnewyddadwy, a sgiliau ôl-ffitio o Dŷ Gwyrddfai, Penygroes. 

    Mae’r hyfforddiant arbenigol a ddarperir yn galluogi unigolion a busnesau i ddatblygu sgiliau ym maes lleihau carbon, sy’n datblygu’n gyflym, gan ddarparu hyfforddiant i ddiwydiant sy’n cynnwys: 

    • Ynni Adnewyddadwy 
    • Ôl-ffitio (Retrofit) 
    • Effeithlonrwydd Ynni 
    • Datgarboneiddio 

     

    Busnes@LlandrilloMenai yw cangen fusnes Grŵp Llandrillo Menai ac yn darparu hyfforddiant proffesiynol, arbennigol ac ar waith.  

  • Prifysgol Bangor

    Trwy gyfranogiad Prifysgol Bangor, bydd Tŷ Gwyrddfai hefyd yn hyrwyddo arloesedd mewn cynhyrchion, deunyddiau a thechnoleg newydd i gefnogi datgarboneiddio ac addasu i newid yn yr hinsawdd a bydd cyfleusterau ymchwil yn cael ei sefydlu i brofi a threialu technoleg a deunyddiau newydd sy’n cyd-fynd â’r agenda datgarboneiddio. 

    Darllen mwy am waith y Brifysgol gyda’r gymuned.

Cyfleusterau a Gwasanaethau

Beth am gynnal eich cyfarfod nesaf yn Nhŷ Gwyrddfai?

Gyda chyfleusterau o’r ansawdd gorau, parcio am ddim a lleoliad canolog yng Ngwynedd, dyma’r lleoliad perffaith ar gyfer eich digwyddiad corfforaethol nesaf. 

Gallwn ddarparu ystafell gynhadledd mewn steil:

  • cyfarfod bwrdd
  • dosbarth
  • theatr

yn ogystal â chynnal cynadleddau ac arddangosfeydd ar gyfer hyd at 100 o bobl.

Mae wifi ar gael yn o gystal â offer i ymuno a chyfarfodydd yn rhithiol.
Gallwn hefyd ddarparu microffon, seinydd a platfform i sefyll arno.

Os oes gennych gwestiwn eu hoffech archebu ein ystafell gynadleddau, cwblhewch ein ffurflen archebu byr a bydd aelod o’r tîm mewn cysylltiad yn fuan. 

 

Ffurflen archebu ein ystafell gynhadledd

Darllenwch y Telerau ac Amodau (Ts&Cs) archebu yma. 

 

Tŷ Gwyrddfai yn y newyddion

Cyllid 

Derbyniwyd £736,000 o gyllid Llywodraeth Cymru drwy’r rhaglenni Trawsnewid Trefi a’r Economi gylchol.  Roedd cais arall yn llwyddiannus hefyd drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a weinyddir gan Gyngor Gwynedd ar gyfer yr elfen Labordy Byw. 

Noddwyr

logos noddwyr ty gwyrddfai