Daniella from academi adra working on her computer

Academi Adra yn agor drysau i bobl lleol

Mae’n bleser cael croesawu dau aelod newydd i’r tîm yn Adra sydd yn ymuno â ni trwy leoliad gwaith gyda thâl trwy gynllun Academi Adra.
Wedi cwblhau cwrs Sgiliau Gweinyddol Academi Adra yn llwyddiannus yn ddiweddar mae Daniella a Hanna wedi ymuno a dwy adran wahanol gyda ni am 16 wythnos.

Fel rhan o’u cwrs 2 wythnos gydag Academi Adra cafodd y ddwy wythnos o hyfforddiant a chyfle i ddysgu am y maes gweinyddol. Cyn mynd ymlaen i gael wythnos o brofiad gwaith gyda ni, er mwyn cael dysgu sut brofiad ydy gweithio mewn awyrgylch swyddfa go-iawn!

Yn dilyn cwblhau’r cwrs, bu’r ddwy yn llwyddiannus mewn cyfweliad ac maent wedi cychwyn ar eu rhaglen 16 wythnos gyda ni.

Mae Hanna Ross wedi ymuno gyda’n tîm Adnoddau Dynol, fel busnes sydd yn tyfu ac yn cyflogi dros 350 o staff, gallwch ddychmygu fod mwy na digon o waith i gadw pawb yn brysur yn y tîm. Graddiodd Hanna o Brifysgol Bangor yn ddiweddar ond hoffai brofiad o weithio mewn awyrgylch gweinyddol:

“Dwi’n cael dysgu a defnyddio pob math o raglenni gweinyddol o fewn y tîm Adnoddau Dynol, mae’r cwrs wedi rhoi cymaint o brofiadau gwahanol i mi yn barod. Dwi’n gobeithio y bydd y profiadau dwi’n eu cael ar y lleoliad gwaith yma yn fy ngwneud yn ymgeisydd cryfach ar gyfer swyddi yn y dyfodol. Dwi’n ddiolchgar iawn i Adra ac Academi Adra am y profiad.”

Ein gobaith trwy gynnig lleoliadau gwaith fel hyn i bobl leol yw ein bod yn cadw talent ifanc yn lleol ac yn rhoi hyder a phrofiadau defnyddiol iddynt wrth ymgeisio am swyddi yn y dyfodol.

Mae Daniella Williams wedi ymuno gyda’r Tîm yn ein Canolfan Datgarboneiddio newydd, Tŷ Gwyrddfai, ym Mhenygroes. Tŷ Gwyrddfai yw’r hwb datgarboneiddio cyntaf o’i math, ac mae’n brosiect ar y cyd gyda Grŵp Llandrillo Menai, Prifysgol Bangor a ni.

Bwriad y Ganolfan yw arwain ar ddatblygu a dysgu pobl a chwmnïau lleol sut i ddefnyddio dulliau adeiladu ‘gwyrdd’.

Rhan o waith Daniella yn ystod ei chyfnod gyda ni yw cydlynnu a chefnogi staff Adra i drefnu digwyddiadau, hyfforddiant a chyfarfodydd. Hi hefyd yw derbynydd Tŷ Gwyrddfai sydd yn croesawu ymwelwyr i’r Ganolfan.

Mae Julie Stokes-Jones, Rheolwr Busnes Tŷ Gwyrddfai yn falch iawn fod Academi Adra wedi gallu cynnig cyfle mor unigryw i Daniella:

“Mae gwaith Daniella wedi cyfrannu gymaint i’r busnes mewn amser byr iawn. Rydym yn trio cynnig gymaint o amrywiaeth a phosibl iddi o fewn ei rhaglen waith a fydd o ddefnydd iddi at y dyfodol.”

Mae Cyrsiau Academi Adra yn cael eu rhedeg yn rheolaidd, cadwch olwg ar ein gwefan a chyfryngau cymdeithasol i gael clywed am y cyfleoedd diweddaraf, pwy a ŵyr efallai mai chi fydd yn ennill eich lle ar ein lleoliad gwaith gyda thâl gyda ni neu un o’n Partneriaid y tro nesaf!

 

Daniella from academi adra working on her computer Hana from Academi adra working in front of a computer in an adra office

Mae’r prosiect hwnAcademi Adra, wedi cael £256,508 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyninant Gyffredin y DU.