Adeiladu cartrefi newydd fforddiadwy yn Abergele mewn partneriaeth hefo Anwyl

Rydan ni yn cydweithio mewn partneriaeth hefo adeiladwr tai rhanbarthol blaenllaw Anwyl i adeiladu tai a darparu cartrefi fforddiadwy o ansawdd er mwyn cyfarch yr angen tai lleol.

Rydym yn cydweithio i adolygu cynlluniau ar gyfer y safle a darparu cynlluniau ac opsiynau tai fforddiadwy.

Mae’r gwaith adeiladu ar y gweill yn Dol Gele ar hyn o bryd ac mae yna ganiatâd i adeiladu 73 o gartrefi ar y safle ar hyn o bryd.  Gan weithio gydag Anwyl, rydym yn gobeithio addasu cynlluniau i newid nifer o eiddo sengl mwy i gartrefi llai i gael tua 80 o gartrefi.

Mae’r cais cychwynnol wedi’i gwblhau a bydd cynlluniau terfynol ar gyfer y datblygiad diwygiedig yn cael eu cyflwyno maes o law.

Dywedodd Iwan Trefor Jones, Dirprwy Brif Weithredwr Adra:

“Fel prif ddarparwr tai yng Ngogledd Cymru, ein nod yw darparu cartrefi fforddiadwy o ansawdd da i bobl leol. Rydym yn falch o fod yn gweithio gydag Anwyl a chyfrannu at yr economi yn ogystal â diwallu’r angen a’r galw am gartrefi newydd fforddiadwy yn Abergele, Gogledd Cymru

Ychwanegodd rheolwr gyfarwyddwr Anwyl Homes yn Sir Gaer a Gogledd Cymru, Phil Dolan: “Rydym yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth gydag Adra a symud ymlaen gyda’r cynllun newydd yma a fydd yn darparu cartrefi o ansawdd uchel ac yn diwallu angen tai lleol.”

Os oes gennych ymholiadau pellach, cysylltwch hefo ni: 0300 123 8084, ymholiadau@adra.co.uk