Photo of the Eisteddfod sign

Adra i’r Eisteddfod

Mae Adra, cymdeithas dai fwyaf gogledd Cymru,  yn rhoi trefniadau funud olaf mewn lle ar gyfer ei phabell ar faes Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym Moduan.

Gyda llai na mis i fynd tan yr Eisteddfod, mae paratoadau yn eu hanterth, gyda llu o ddigwyddiadau yn cymryd lle yn ystod yr wythnos, gyda thema gwahanol bob dydd.

Thema pabell Adra ar gychwyn y brifwyl yw cymunedau Adra. Dydd Mawrth mi fydd Adra yn dathlu partneriaethau amrywiol, bydd digwyddiad Merched mewn Tai Cymdeithasol ar y dydd Mercher, a bydd diwedd yr wythnos yn canolbwyntio ar recriwtio.

Dydd Sadwrn, Awst 5, bydd Adra yn cynnal sesiwn banel ym Mhabell y Cymdeithasau am 2.30pm. Thema’r sesiwn fydd ‘Sicrhau Cymunedau Ffyniannus – Gyda’n Gilydd’.  Y siaradwyr fydd Iwan Trefor Jones, Prif Weithredwr Adra; Siân Gwenllian AS; Bethan Williams, Prif Swyddog Mantell Gwynedd; Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn a’r Cynghorydd Craig ab Iago.

Ddydd Mawrth, Awst 8, bydd Adra yn trefnu dathliad i bartneriaethau ac yn lansio ei hadroddiad Gwerth Cymdeithasol am 10am.

Ddydd Mercher, bydd Adra yn cynnal cyfarfod o Ferched Mewn Tai Cymdeithasol am 10am. Sesiwn banel fydd hon gyda Sasha Davies, is-Gadeirydd Bwrdd Adra; Sarah Schofield, Cyfarwyddwraig Cymunedau a Chwsmeriaid Adra; Emma Williams o Gymdeithas Dai Gogledd Cymru, Elliw Llŷr o Gyngor Sir Ynys Môn, Fflur Jones o gwmni Darwin Gray ac  Alwen Williams o Fwrdd Uchelgais Gogledd Cymru.

Yn ogystal, bydd gweithgareddau i blant o bob oedran ym mhabell Adra drwy gydol yr wythnos, gan gynnwys celf a chrefft, paentio wynebau, clocsio gyda Tudur Philips, Iogis Bach, gemau, sesiynau Dwylo Bach a Band Bwced.

Dywedodd Iwan Trefor Jones, Prif Weithredwr Adra; “Braf yw cael yr Eisteddfod ar ein stepen drws eleni ym Moduan, mae’n gyfle i ni arddangos ein gwaith ar draws cymunedau’r ardal a thu hwnt.

“Mi fydd yn gyfle i ni ddathlu ein partneriaethau allweddol, a diolch i bawb sydd wedi ein cefnogi a gweithio gyda ni dros y blynyddoedd, yn ogystal â rhoi sylw i ferched yn y maes adeiladwaith a thai cymdeithasol, meysydd ble mae llawer iawn mwy o ddynion  yn gweithio ynddynt yn draddodiadol.”

Cofiwch alw draw i babell Adra os ydych yn ymweld ar Eisteddfod eleni.

Llun: Lluniau Aled Llywelyn | Eisteddfod Genedlaethol