Llun o bobl mewn ffair swyddi

Adra yn parhau i annog Merched i mewn i Adeiladu

Roedd y digwyddiad diweddaraf hwn ar gampws Llangefni Grŵp Llandrillo Menai wedi’i dargedu at ferched blwyddyn 7-9 yn bennaf ac fe’i mynychwyd gan dros 90 o weithwyr adeiladu posibl y dyfodol.  

Yno i gefnogi stondin Adra oedd Catrin Leadbitter, Uwch Reolwr Gweithrediadau o’r tîm Trwsio a Sara Fôn Williams, Rheolwr Prosiect o’r tîm Asedau. Dywedodd Catrin, 

“Roedd yn galonogol gweld cymaint o ferched ifanc yn cymryd diddordeb mynd i mewn i’r diwydiant adeiladu. Mae’r amrywiaeth o swyddi sydd ar gael yn helaeth ac nid ar yr offer yn unig chwaith. Dwi methu aros i weld mwy o ferched yn gweithio yn y diwydiant yma yn y dyfodol!”  

Mae Adra yn arwain y ffordd wrth dargedu merched i weithio yn y diwydiant adeiladu ac eisoes wedi cynnal digwyddiad llwyddiannus yn Ysgol Dyffryn Nantlle nôl ym mis Mawrth ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched. Teitl y digwyddiad hwn oedd ‘Not Just for Boys’ a chafodd 65 o ferched ifanc flas ar sut brofiad oedd gweithio yn y diwydiant adeiladu.