Llun o Iwan Trefor Jones

Adra yn cyhoeddi Prif Weithredwr newydd

Mae Adra, cymdeithas dai fwyaf Gogledd Cymru wedi penodi Prif Weithredwr newydd.

Iwan Trefor Jones fydd yn olynu Ffrancon Williams fydd yn gadael y mudiad ganol mis Mai ar ôl 13 mlynedd.

Mae Iwan wedi bod yn Ddirprwy Brif Weithredwr i Adra ers sawl blwyddyn ac mae ganddo brofiad helaeth o weithio mewn llywodraeth leol a’r sector tai, yn ogystal â bod yn gyn aelod o Fwrdd Uchelgais Gogledd Cymru lle cyfrannodd yn sylweddol at y gwaith o ddatblygu economi’r rhanbarth.

Dywedodd Hywel Eifion Jones, Cadeirydd Bwrdd Adra: “Mae gan Iwan weledigaeth glir, ymrwymiad ac angerdd i symud Adra ymlaen. Mae’n berson gwirioneddol ysbrydoledig sy’n adlewyrchu gwerthoedd Adra ac mae’n llysgennad gwych i’r sefydliad.

Dywedodd Ffrancon Williams, Prif Weithredwr: “Mae’n gyfnod heriol i’r sector tai yng Nghymru ac yn genedlaethol, ac Iwan yn sicr yw’r un i arwain y sefydliad i ddelio â’r heriau hynny. Mae ganddo brofiad helaeth o weithio yn y sector tai a bydd ei brofiad a’i arweiniad mewn llywodraeth leol a’r economi ranbarthol yn ei roi mewn sefyllfa dda ar gyfer y dyfodol”.

Ychwanegodd Iwan: “Rwy’n falch iawn o gael fy mhenodi’n Brif Weithredwr Adra. Bydd yn heriol dilyn yn ôl troed Ffrancon. Mae wedi gweithio’n galed iawn dros y blynyddoedd i arwain Adra ymlaen i’r sefyllfa hynod gadarn sy’n bodoli heddiw.

“Rwy’n edrych ymlaen at adeiladu ar yr holl waith da sydd wedi digwydd a byddaf yn sicrhau ein bod ni fel cwmni yn cadw at ein gwerthoedd wrth i ni ddatblygu i fod yn un o gwmnïau mwyaf blaengar Cymru. Edrychaf ymlaen at weithio gyda phartneriaid i ymateb i anghenion tenantiaid a chymunedau”.