Group of people standing outside a bungalow with large 7,000 purple numbers

Adra yn dathlu 7,000 o gartrefi

Mae Cymdeithas Tai Adra, un o brif ddarparwyr tai fforddiadwy ac o safon yng ngogledd Cymru, yn falch iawn i gyhoeddi’r garreg filltir arbennig o gyrraedd 7,000 o gartrefi.

Mae’r eiddo yn Nhreborth, ger Bangor sy’n rhan o ddatblygiad pedwar byngalo ar safle hen fodurdai, wedi ei ddylunio a’i addasu’n arbennig i gwrdd ag anghenion y tenant newydd.

Mae’r cartref yn cynnwys drysau llydan, teclynnau codi cellau, ystafell wlyb gyda thoiled closomat ac arwyneb cegin hydrolig.

Yn ogystal â’r addasiadau, mae gan yr eiddo sgôr EPC o A, gyda phaneli solar, pwmp gwres ffynhonnell aer, inswleiddiad effeithlon a ffenestri effeithlon.

Dywedodd Sarah Schofield, Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chymunedau Adra: “Rydym yn falch iawn o gyrraedd y garreg filltir arwyddocaol hon o 7,000 o gartrefi.

“Mae’r cyflawniad hwn yn dyst i waith caled pawb yn Adra a’n hymrwymiad parhaus i fynd i’r afael â’r heriau tai yn ein cymunedau a darparu sylfaen gadarn i bobl leol ffynnu.

“Mae’r garreg filltir o 7,000 o gartrefi yn adlewyrchu nid yn unig ymroddiad Adra i ddarparu cartrefi o safon ond hefyd ein rôl wrth gefnogi llesiant a sefydlogrwydd pobl a theuluoedd ar draws y rhanbarth.

Dywedodd Hywel Eifion Jones, Cadeirydd Bwrdd Adra: “Rydym yn falch iawn o fod wedi cyrraedd y garreg filltir aruthrol hon, a rhaid i mi gymryd y cyfle i ddiolch i bawb yn Adra am eu gwaith arbennig yn gwneud hyn yn bosibl.

“Mae Adra yn parhau i ganolbwyntio ar sicrhau bod gan bobl leol fynediad at gartrefi fforddiadwy a diogel, rydym wedi gwneud ymrwymiad cadarn yn ein Cynllun Corfforaethol i adeiladu cartrefi newydd sy’n ynni-effeithlon, o ansawdd uchel ac yn fforddiadwy o ran rhent a chostau gwresogi, a byddwn yn parhau i dyfu ein stoc tai yn raddol i fodloni’r galw cynyddol am gartrefi fforddiadwy o safon.”