Llun gofal cwsmer

Adra yn dathlu adborth tenantiaid – ond yn addo gwneud mwy

Mae ffigurau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru wedi dangos bod Adra, cymdeithas dai fwyaf Gogledd Cymru, yn un o’r landlordiaid cymdeithasol sy’n perfformio orau yng Nghymru o ran adborth cwsmeriaid.

Nawr mae’r gymdeithas dai wedi addo gweithio’n galed i barhau i wella gwasanaethau yn y dyfodol.

Bob blwyddyn, mae landlordiaid cymdeithasol yn cael eu mesur ar adborth cwsmeriaid a’u cymharu â landlordiaid ledled Cymru.

Ymddangosodd Adra ymhlith y pum perfformiwr uchaf am wrando a gweithredu ar adborth, am gynnwys tenantiaid mewn penderfyniadau, am gyfleoedd i denantiaid gael dweud eu dweud am y ffordd y caiff gwasanaethau eu rheoli ac am fod yn landlord y gellir ymddiried ynddo.

Mae hefyd yn perfformio’n dda o ran adborth ar ddarparu cartref diogel, delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, delio ag atgyweiriadau a chynnal a chadw ac ar gyfer creu cymdogaethau diogel.

Mae Adra hefyd yn perfformio’n dda o ran darparu gwerth am arian, gyda rhenti Adra ymhlith yr isaf yng Nghymru.

Dywedodd Sion Hughes, Cyfarwyddwr Cynorthwyol – Cwsmeriaid a Chymunedau: “Rydym yn croesawu’r canfyddiadau hyn gan eu bod yn adlewyrchu’r gwaith aruthrol sy’n mynd ymlaen ar draws y sefydliad i wella gwasanaethau i denantiaid.

“Rydym yn cydnabod mai dim ond ciplun ydyn nhw ond maen nhw’n rhoi dangosydd clir i ni ein bod ar y llwybr cywir o ran boddhad tenantiaid.

“Eleni fe wnaethom lansio fframwaith cyfranogiad tenantiaid newydd o’r enw Eich Llais ac rydym wrth ein bodd ei fod i’w weld yn cael effaith yn barod.

“Wrth gwrs mae rhywfaint o waith i’w wneud i gynnal y safonau hyn ac mae rhai meysydd gwaith yr ydym yn ymwybodol bod angen gwaith pellach arnynt, gan gynnwys y ffordd rydym yn cyfathrebu â thenantiaid ynghylch apwyntiadau ac ymholiadau cyffredinol.

“Ni fyddwn yn hunanfodlon bydd timau ar draws Adra yn parhau i edrych ar wella gwasanaethau i fod y gorau y gallant”.