Staff Adra gyda banner Pride yn orymdaith Balchder Gogledd Cymru

Adra yn gorymdeithio i ddathlu balchder yn eu cymunedau.

Fe wnaeth Adra, cymdeithas dai fwyaf Gogledd Cymru, ymuno a dros 2,000 o bobl ar strydoedd Caernarfon dydd Sadwrn y 24ain o Fehefin i ddathlu’r gymuned LGBTQIA+ yn rhan orymdaith Balchder Gogledd Cymru.

Sefydlwyd Balchder Gogledd Cymru yn 2011 ac mae’n ddigwyddiad sy’n dathlu’r gymuned LGBTQIA+ ac yn cynnig cyfleoedd i ddod â phobl ynghyd a lleihau unigrwydd mewn ardaloedd gwledig, drwy greu amgylchedd cefnogol a chroesawgar.

Dywedodd Iwan Trefor Jones, Prif Weithredwr Adra: “Braint oedd cael cymryd rhan yn yr orymdaith, a chael y cyfle i ddangos ein cefnogaeth i’r gymuned LGBTQIA+ yng Ngogledd Cymru.

“Rydym ni fel sefydliad wedi ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynwysoldeb ac rydym am i bawb allu gweithio a byw mewn cymunedau lle gall pobl deimlo’n falch a byw eu bywydau heb unrhyw fath o wahaniaethu.

“Mae digwyddiadau fel Balchder Gogledd Cymru yn gyfle gwych i ddangos ein hymrwymiad a’n cefnogaeth mewn awyrgylch hwyliog.

“Hoffwn gymryd y cyfle i longyfarch y trefnwyr ar lwyddiant y dathliadau.”