Adra yn Grymuso Merched Ifanc mewn Digwyddiad Ysbrydoledig wedi’i Gynllunio i Dorri Rhwystrau

Mae Adra, cymdeithas tai blaenllaw yng ngogledd Cymru, yn falch o fod wedi cynnal ei ail ddigwyddiad blynyddol ar gyfer Merched mewn Adeiladwaith ar gyfer disgyblion blwyddyn 9 yn eu canolfan datgarboneiddio Tŷ Gwyrddfai ym Mhenygroes. 

Eleni, dewiswyd disgyblion o Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon. Mi drefnwyd y digwyddiad i diddymu stereoteipiau rhywedd ac i annog merched ifanc i archwilio cyfleoedd yn y diwydiant adeiladu, ac mi roedd y digwyddiad yn lwyddiant eithriadol.  

Roedd y digwyddiad yn cynnwys cyfres o weithgareddau diddorol, gan gynnwys sesiynau carwsél, gweithdai addysgiadol, a sesiynau ‘rhoi cynnig arni’, gyda’r holl nod i gyflwyno 60 merch i fyd amrywiol a chyffrous y diwydiant adeiladu. Mae Adra yn ymrwymedig i feithrin cynhwysiant ac yn bwriadu denu mwy o ferched i mewn i’r sector dai cymdeithasol gan ddangos bod y diwydiant yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd i bawb. 

Mae sesiynau ymarferol yn well wrth geisio ymgysylltu gyda merched ifanc yn hytrach na darllen prosbectws yn unig. Un o’r sesiynau yn y digwyddiad oedd plastro gyda Charlotte Robinson o Saint Gobain Interior Solutions, ac roedd nifer fawr eisiau trio!  

Dywedodd Charlotte: “Mor bod yn ferch yn y byd adeiladwaith yn fy ngrymuso, a does dim rheswm i ferched beidio bod yn y math yma o waith. Hoffwn weld mwy o ferched yn gweithio yn y diwydiant yma”.  

Gan adeiladu ar lwyddiant y llynedd, roedd Adra’n falch o weld cynnydd mewn brwdfrydedd gan y cyfranogwyr a’r cefnogwyr. Roedd agenda’r bore yn cynnwys sgyrsiau gan nifer o gyflogwyr, pob un yn arddangos eu hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant yn y sector adeiladu. Roedd y cyfranogwyr yn cynnwys Travis Perkins, Altro Flooring, Griffiths Construction, TrueWool, a Webber, gyda Grŵp Llandrillo Menai yn hybu cyfleoedd prentisiaeth o fewn y diwydiant adeiladu. 

Yn mynegi diolch i’r sefydliadau gymerodd ran, dywedodd Ceri Ellis-Jackson, Arweinydd Rhaglen Academi Adra:  “Roedd yn freuddwyd gweld 60 merch ifanc yn derbyn y cyfleoedd a’r profiadau hyn ar eu stepen drws. Sefydlwyd Academi Adra i roi cychwyn i bobl ifanc yn y byd gwaith, ac rwy’n falch iawn o ddod â mwy o amrywiaeth i mewn i’r diwydiant adeiladu drwy gynnal digwyddiadau fel hyn. 

“Mae Adra yn parhau â’i ymrwymiad i dorri’r rhwystrau a allai annog merched ifanc rhag dilyn gyrfaoedd yn y diwydiant adeiladu. Drwy gynnig profiadau ymarferol ac arddangos ystod o rolau sydd ar gael, mae Adra yn anelu at ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr menywod yn y diwydiant.”