Adra yn gweld gwerth buddsoddi mewn pobl leol a chydnabod cyfraniad prentisiaid

Mae hi’n Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau wythnos yma a rydan ni yn cydnabod gwerth a chyfraniad prentisiaid i lwyddiant cwmni.

Mae gennyn ni brentisiaid ym meysydd Gosodiadau Trydanol, Tai, Plymio a Gwresogi Domestig, Hyfforddai Aml Sgil a llawer mwy.

Dywed Delyth Williams, ein Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Pobl:

“Rydan ni yn Adra yn falch iawn ein bod ni’n gallu cynnig cyfleoedd gwych i unigolion brwdfrydig sy’n awyddus i ddysgu. Rydan ni’n ymfalchïo mewn gallu darparu profiadau amrywiol i wahanol brentisiaid sy’n eu galluogi i fod yn rhan o brosiectau a meysydd gwaith allweddol.

“Mae’r prentisiaid yma yn cael profiad ymarferol a pharhau hefo eu haddysg, astudio i ennill cymwysterau a fydd wedyn yn cyfrannu at ddatblygu eu sgiliau, dealltwriaeth a chyfleoedd gyrfa yn y dyfodol.

“Mae Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau yn gyfle i ddathlu ein llwyddiannau a meddwl am gyfleoedd y dyfodol.”

Kyle Harding Jones oedd un o’n prentisiaid cyntaf. Dechreuodd Kyle fel Prentis TG (Technoleg Gwybodaeth) ym mis Hydref 2017, gan gwblhau NVQ Lefel 3 mewn Cymhwysedd Proffesiynol ar gyfer Unigolion Proffesiynol ym maes TG a Telecom, yn llwyddiannus. Aeth ymlaen wedyn i astudio Gradd Prentisiaeth TG ym mis Medi 2018 ac fe gafodd ddyrchafiad i’r swydd mae ynddi ar hyn o bryd gan barhau i astudio ei radd Prentis.

Mae Kyle bellach yn Swyddog Desg Gymorth Technoleg Gwybodaeth yn Adra. Dyma enghraifft o’r datblygiad a buddsoddiad mewn bobl a’r budd rydym ni a’r unigolyn, Kyle, wedi gael o wneud hyn. Dywed Kyle:

“Dwi’n falch ‘mod i wedi cael y cyfle i fod yn brentis, mae gen i yrfa mewn maes sydd o ddiddordeb i mi a dwi’n cael datblygu fy hun drwy’r cymwysterau dwi’n astudio, ac yn gweithio mewn sefydliad proffesiynol.

“Dyma oedd y dewis iawn i fi a dwi’n gwerthfawrogi’r cyfleoedd dwi wedi eu cael yn Adra a dwi’n gobeithio ‘mod i’n cyfrannu yn ôl i’r cwmni hefyd wrth i mi rannu fy ngwybodaeth a fy sgiliau sy’n ehangu o hyd.”

Mae Sophie Lewis yn Hyfforddai Tai a Swyddog Cefnogi Pobl Hŷn yn efo ni. Un o’i chyfrifoldebau ydi ei rôl hefo ‘Aros Adra’, sef gwasanaeth cymorth yn y cartref i bobl sy’n byw yng Ngogledd Cymru. Mae’r gwasanaethau sy’n cael eu gweithredu gan weithwyr fel Sophie yn cynnwys gwaith tŷ, siopa, golchi dillad, apwyntiadau doctor, help hefo biliau, cael sgwrs, help i fynd am dro, a llawer mwy. Dywed Sophie Lewis:

“Dwi’n meddwl bod y profiad a’r cyfleoedd dwi wedi eu cael drwy fod yn Hyfforddai yn Adra, drwy’r cyfuniad o astudio a gweithio, wedi bod yn ardderchog i fy natblygiad personol a phroffesiynol.”

Gan ein bod yn tyfu ac yn chwilio am fwy o staff i’r tîm trwsio, mae yna Ffair Swyddi Cynnal a Chadw, fydd yn cynnwys rhai prentisiaethau hefyd, ymlaen rhwng 17:30 – 20:00 ar 25 Chwefror yn Nhŷ Coch, Parc Menai, Bangor, a bydd un arall yn cael ei gynnal 17:30 – 20:00, 26 Chwefror yn Nhŷ Madog, Stad Ddiwydiannol, Porthmadog.

Rydym hefyd yn chwilio am unigolion ym mlwyddyn 10 sydd hefo diddordeb mewn cael profiad gwaith ni, mewn meysydd gwahanol.

Dylai unigolion sydd â diddordeb gysylltu hefo ni.