Adra yn Lansio Tendra

Mae Adra wedi datgelu eu menter ddiweddaraf, sydd wedi ei anelu at hybu twf a datblygiad o fewn y sector adeiladu lleol. Wedi’i enwi’n “Tendra,” mae’r prosiect arloesol hwn wedi cael ei gefnogi gan Gronfa Her ARFOR, menter gydweithredol gan Gyngor Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn i archwilio atebion i gryfhau’r berthynas rhwng yr iaith Gymraeg a’r economi, ac mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Gan gydnabod yr heriau sy’n wynebu busnesau adeiladu bach, yn enwedig o ran rhwystrau gweinyddol yn y prosesau ymgeisio, nod Tendra yw torri’r rhwystrau hyn i lawr. Gyda’r slogan “Adeiladu’r dyfodol, un tendr ar y tro,” mae’r prosiect yn ceisio grymuso busnesau bach, gan eu helpu i gwblhau’r gwaith papur a chael hyder i wneud cais am waith, gan gynnwys contractau mwy drwy lwyfannau fel GwerthuiGymru.

Mewn digwyddiad lansio Tendra diweddar yn Nhŷ Gwyrddfai ym Mhenygroes, a welodd dros 30 o berchnogion busnesau bach yn mynychu. Mae hyn yn dystiolaeth o’r brwdfrydedd a’r gefnogaeth ar gyfer y fenter hon yn y gymuned leol. Manteisiodd y mynychwyr ar y cyfle i gael cipolwg, rhwydweithio gyda chydweithwyr, ac ymgysylltu â staff Adra, gan feithrin amgylchedd cydweithredol sydd â’r nod o hybu twf.

Trwy gydol 2024, bydd Tendra yn cynnig cyfres o weithdai am ddim wedi’u teilwra i anghenion busnesau adeiladu bach. Gan gynnwys pynciau hanfodol fel deall gwerth cymdeithasol, prisio swyddi’n effeithiol, blaenoriaethu iechyd a diogelwch, cael achrediadau angenrheidiol, a datblygu matrics hyfforddi cynhwysfawr, nod y gweithdai hyn yw rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i berfformio’n dda mewn tirwedd ddiwydiannol gystadleuol.

“Rydym yn falch i lansio menter Tendra, sy’n cynrychioli cam sylweddol tuag at feithrin twf cynhwysol a grymuso busnesau adeiladu bach yn ein cymuned,” meddai Julie Stokes-Jones, Rheolwr Busnes Tŷ Gwyrddfai sy’n arwain ar y fenter hon. “Drwy ddarparu cymorth ymarferol, adnoddau, a chyfleoedd rhwydweithio, ein nod yw nid yn unig hwyluso mynediad at gyfleoedd ond hefyd meithrin cynaliadwyedd a llwyddiant hirdymor y busnesau hyn.”

I berchnogion busnesau bach yn y diwydiant adeiladu sy’n dymuno cael gwybod am weithdai a digwyddiadau a ddarperir gan Tendra, mae’r rhestr datgan diddordeb bellach ar agor. Anfonwch e-bost at info@tygwyrddfai.cymru i sicrhau eich lle.