Boiler being serviced

Adra yn lansio ymgyrch ochr yn ochr ag Wythnos Diogelwch Nwy

Mae Adra, cymdeithas dai fwyaf Gogledd Cymru, yn lansio ymgyrch newydd i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gwasanaethu boeleri blynyddol i gydfynd a Wythnos Diogelwch Nwy (11-17 Medi, 2023).

Mae’r Wythnos Diogelwch Nwy hon yn canolbwyntio ar ehangder ac amrywiaeth y sgiliau, profiadau a phobl sy’n chwarae rhan hanfodol wrth gadw nwy’r DU yn ddiogel, yn ogystal ag atgoffa defnyddwyr am ddiogelwch nwy a sut i sicrhau eu bod yn aros yn ddiogel.

Gall offer nwy nad ydynt wedi’u cynnal a’u cadw’n iawn achosi gollyngiadau nwy, tanau, ffrwydradau a gwenwyn carbon monocsid (CO). Yn aml mae carbon monocsid yn cael ei gyfeirio ato fel y ‘laddwr tawel’ oherwydd ni allwch ei weld, ei arogli na’i flasu. Felly, mae’n hynod bwysig i beiriannydd sydd wedi’i restru ar y Gofrestr Diogelwch Nwy wirio a gwasanaethu offer nwy.

Dywedodd Howyn Roberts, Uwch Reolwr Gweithrediadau Adra: “Diogelwch tenantiaid yw ein prif flaenoriaeth, mae’n bwysig iawn ein bod yn cael mynediad i’n heiddo er mwyn cynnal gwasanaeth boeler blynyddol a gwiriadau diogelwch nwy.

“Nid yn unig mae’n ofyniad cyfreithiol i ni fel landlord sicrhau bod yr holl foeleri yn ein heiddo yn cael eu gwasanaethu’n flynyddol, er mwyn sicrhau diogelwch ein tenantiaid.

“Mae gwasanaethu blynyddol hefyd yn sicrhau bod y boeler yn gweithredu mor effeithlon â phosibl, sydd yn ei dro yn lleihau cost gwresogi’r cartref. Gall hefyd helpu i nodi a thrwsio unrhyw fân broblemau, a all atal problemau mwy yn y dyfodol.”