An image of the NextGen technology

Adra yn troi at dechnoleg yn ei gwaith effeithlonrwydd ynni cartref

Bydd Cymdeithas Tai Adra yn treialu technoleg arloesol newydd yn un o’i chynlluniau gwella diweddaraf, er mwyn helpu cwsmeriaid gyda’u biliau gwresogi a gwneud eu heiddo’n fwy effeithlon o ran ynni.

Mae gwaith wedi’i gynllunio ar gyfer 14 eiddo yng Ngwelfor, Rhosgadfan ger Caernarfon. Bydd Adra yn treialu technoleg arloesol o’r enw NexGen Heating. Mae NexGen yn dechnoleg gwresogi newydd, unigryw sy’n darparu gwres hynod o effeithlon, cost isel, ynni uchel, gan ddefnyddio technoleg ‘Is-goch’ (infrared)  sy’n cynhesu ystafell yn hytrach na rheiddiaduron nwy confensiynol neu wresogyddion trydan.

I gyd-fynd â’r dechnoleg newydd bydd Adra hefyd yn gosod paneli Solar PV a batris storio ynni yn ogystal â defnyddio rhai dulliau traddodiadol fel inswleiddio waliau allanol, inswleiddio atig, rendrad a ffenestri newydd.

Bydd y gwaith yn cael ei ariannu’n rhannol drwy Raglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Mathew Gosset, Cyfarwyddwr Cynorthwyol – Assets: “Yn Adra rydym wedi ymrwymo i wneud ein cartrefi yn fwy effeithlon o ran ynni ac mae’r prosiect hwn yn Rhosgadfan yn enghraifft wych lle rydym yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf fel rhan o’r buddsoddiad i gynnal ein stoc bresennol o gartrefi”.

“Bydd gwneud ein cartrefi yn fwy ynni-effeithlon yn cynorthwyo ein cwsmeriaid o ran cost gwresogi eu cartrefi, yn enwedig yn ystod yr argyfwng costau byw hwn. Mae hyn yn gwneud ein buddsoddiad yn hynod o werth chweil, ac rydym yn mawr obeithio y bydd ein cwsmeriaid yn elwa o hyn”.