Llun o'r ymwelwyr yn yr Amgueddfa Lechi.

Adra yn ymuno â’r Brifysgol Agored ar brosiect treftadaeth ddiwylliannol  

Mae’n bleser gan Adra fod yn bartner gyda’r Brifysgol Agored yng Nghymru ar gynllun i gysylltu cymunedau â’u treftadaeth.

Mae’r Brifysgol Agored wedi derbyn grant o £27,925 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i ddatblygu prosiect newydd cyffrous o’r enw Wales REACH. Bydd yn datblygu prosiect celfyddydau creadigol ac yn helpu pobl mewn pum ardal yng Nghymru i archwilio cysylltiadau â’u treftadaeth ddiwylliannol.

Mae ardaloedd o Wynedd sydd â chysylltiadau â chwarela a chloddio am lechi yn un o’r rhanbarthau fydd yn rhan o raglen REACH.

 Bydd Adra yn gweithio gyda Yr Orsaf, Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd, Amgueddfa Cymru a’r Amgueddfa Lechi yn Llanberis.

Mae dwy sesiwn eisoes wedi’i cynnal, gyda’r Ymddiriedolaeth Archeolegol yn trafod y gwaith maen nhw fel mudiad wedi bod yn ei gynnal yn Ninas Dinlle yn ddiweddar

Roedd yr ail sesiwn yn  cynnwys taith i’r Amgueddfa Lechi yn Llanberis, lle bu cyfle i’r rhai fu’n mynychu yn cael dysgu mwy am y diwydiant sydd wedi cael gymaint o ddylanwad ar yr ardal lle maen nhw’n byw.

Bydd Adra yn gweithio’n agos gyda’r Brifysgol Agored a phartneriaid i ddod â’r prosiect hwn yn fyw drwy ysgrifennu creadigol, cerddoriaeth a’r celfyddydau gweledol, yn ogystal â gweithdai ac arddangosfeydd.

 Yr ardaloedd eraill o Gymru sydd wedi’u cynnwys yn y prosiect yw Trebiwt yng Nghaerdydd, Port Talbot, Sir Benfro, Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg.

 Dywedodd Dylan Thomas, Rheolwr Cynorthwyol Cymunedol a Phartneriaeth: “Mae hwn yn swnio fel prosiect hynod ddiddorol a fydd yn dod â phobl o gymunedau ynghyd i weithio ar brosiect creadigol a fydd yn adlewyrchu eu treftadaeth ddiwylliannol.

“Mae Adra yn falch iawn o fod yn un o’r partneriaid ac edrychwn ymlaen at weithio gyda phartneriaid eraill i ddatblygu’r prosiect hwn mewn cymunedau chwarelyddol a mwyngloddio ar draws Gwynedd”.