Adra yn ymuno gydag Wythnos Hinsawdd Cymru gyda Hwb Datgarboneiddio Arloesol 

Mae Adra yn gyffrous i gyhoeddi ei fod yn cymryd rhan yn Wythnos Hinsawdd Cymru, menter sy’n cael ei hyrwyddo gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael gyda heriau hinsawdd brys.  

Mae Adra, mewn cydweithrediad gyda phartneriaid Prifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai, yn arwain y ffordd gyda hwb datgarboneiddio sy’n torri tir newydd o’r enw Tŷ Gwyrddfai ym Mhenygroes, gan ddangos ei ymrwymiad i gynaliadwyedd a dyfodol gwyrddach.  

Caiff ymroddiad Adra i gyfrifoldeb amgylcheddol ei amlygu drwy sefydlu’r ganolfan rhagoriaeth newydd ac arloesol yma. Gyda thros 7000 o gartrefi, mwy na 90% wedi’u hadeiladu dros 50 mlynedd yn ôl, mae Adra yn cydnabod ei fod yn bwysig ôl-osod y cartrefi yma gyda datrysiadau ynni-effeithlon i leihau biliau ynni tenantiaid a chyfrannu at nodau cenedlaethol i leihau carbon.   

Gan weithio yn ddiwyd i gyflawni targedau sero net Llywodraeth Cymru, mae Adra, ar y cyd gyda’i gontractwr mewnol Trwsio a chontractwyr lleol, wedi mynd ati i ôl-osod cartrefi gyda chynnyrch arbed ynni addas.  Mae’r bartneriaeth gyda Phrifysgol Bangor yn cyflwyno labordy byw o fewn yr hwb datgarboneiddio, yn rhoi gofod i brofi ac arloesi cynnyrch newydd a fydd yn chwarae rhan ganolog wrth drawsnewid cartrefi i ofodau cynaliadwy, ynni-effeithlon.   

Mae cynnwys Grŵp Llandrillo Menai yn ychwanegu dimensiwn addysgiadol hanfodol i’r fenter.   Bydd y coleg yn darparu hyfforddiant cynhwysfawr ar ddefnyddio technolegau newydd, yn sicrhau bod y gweithlu presennol yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen i roi ar waith yn effeithiol.  Mae’r ymrwymiad hwn i uwchsgilio yn cyd-fynd gyda gweledigaeth Adra o economi gylchol, meithrin talent leol a chynnal cyflogaeth o fewn y gymuned.   

Mae hwb datgarboneiddio Tŷ Gwyrddfai wedi’i leoli ym Mhenygroes, ar gyrion Caernarfon mewn ffatri segur sydd wedi’i haddasu. Caeodd y ffatri yn 2020, gan arwain at golli bron i 100 o swyddi.  Mae Tŷ Gwyrddfai yn awr yn hwb ganolog i Adra, gyda swyddfa, pencadlys Trwsio, a depo Travis Perkins yno.  O safbwynt strategol, mae’n galluogi cydlynu a gweithredu mentrau datgarboneiddio yn effeithiol ar draws stoc dai helaeth Adra.  

Dywedodd Julie Stokes-Jones, Rheolwr Busnes Tŷ Gwyrddfai  

“Rydym yn falch ein bod yn flaenllaw o ran mentrau sero-net gogledd Cymru.  Mae ein hymrwymiad i gynaliadwyedd yn mynd tu hwnt i ôl-osod cartrefi; mae am adnewyddu ein cymunedau a chreu dyfodol lle mae cyfrifoldeb amgylcheddol a thwf economaidd yn mynd law yn llaw.”   

Mae’r ffaith bod Adra yn cymryd rhan yn Wythnos Hinsawdd Cymru yn ategu ei ymroddiad i gyfrannu yn ystyrlon i ddyfodol cynaliadwy, carbon isel. Drwy gydweithio, arloesi, ac ymgysylltu â’r gymuned, mae Adra yn gweithredu i greu gogledd Cymru gydnerth sy’n ymwybodol o faterion amgylcheddol. 

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â cyfathrebu@adra.co.uk