Strategaeth Datgarboneiddio

Rydym yn gweithredu ar newid yn yr hinsawdd i ddatgarboneiddio ein cwmni a’r cartrefi yr ydym yn eu darparu ac i yrru dyfodol cynaliadwy i gymunedau ledled Gogledd Cymru.

Fel un o brif ddarparwyr cartrefi a gwasanaethau o safon, rydym yn dymuno gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i bobl a’u cymunedau.

Rydym ymhlith y cymdeithasau tai cyntaf yng Nghymru i ddangos ymrwymiad i ymgyrch Llywodraeth Cymru i ddatgarboneiddio cartrefi erbyn 2030.

Darllennwch ein Strategaeth Datgarboneiddio

 Darllenwch ein prosiect ôl-osod wedi’i optimeiddio


 

Beth rydym yn ceisio ei gyflawni?

Rydym eisiau effeithio cyn lleied ag sy’n bosib ar yr amgylchedd drwy leihau allyriadau carbon o’n holl weithgareddau busnes, gan sicrhau bod cynaliadwyedd yn ganolog i bob dim rydym yn ei wneud.

I wneud hyn, rydym wedi datblygu strategaeth datgarboneiddio drwy fesur ein ôl-troed carbon ein hunain i fapio’r newidiadau a’r gweithrediadau sydd angen eu gwneud.

 

Beth yw datgarboneiddio?

Yn syml, datgarboneiddio yw lleihau faint o garbon deuocsid sy’n cael ei ryddhau i’r atmosffer cymaint ag sy’n bosib. Mae carbon deuocsid yn gwneud difrod i’r amgylchedd.

Pam ein bod ni’n gwneud hyn?

Gyda’r argyfwng hinsawdd sy’n bodoli ar hyn o bryd a’r angen ar frys i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, rhai i ni gyd wneud ein rhan i leihau faint o garbon rydym yn ei gyfrannu i’r amgylchedd. Y prif resymau dros fynd ymlaen efo’r gwaith yma yw:

Y gyfraith

Mae yna resymau cyfreithiol am ddatgarboneiddio. Mae Deddf Newid Hinsawdd yn dweud bod rhaid i Lywodraeth y DU leihau allyriadau o 100% o leiaf yn 2050 (sero net) o gymharu efo lefelau 1990.

 

Arbed Arian

Mae lleihau faint o ynni sy’n cael ei ddefnyddio i leihau allyriadau hefyd yn lleihau faint o arian sy’n cael ei wario ar filiau ynni sy’n fudd allweddol i’n cwsmeriaid a thlodi tanwydd yn gyffredinol.

 

Rheoleiddio

Mae gofynion yn y rheoliadau adeiladu ar gadwraeth tanwydd a phŵer. Mae yna safonau perfformio ar gyfer tai newydd a gwaith adnewyddu mawr ar adeiladu presennol a rhaid i ni

gwrdd â’r safonau yma.

 

Targedau Cenedlaethol

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan argyfwng amgylcheddol gyda’r uchelgais i ddatgarboneiddio’r sector gyhoeddus erbyn 2030.

 

Ein Gwerthoedd ac Enw Da

Rydym yn falch o’n henw da fel cwmni sydd eisiau gweithio’n galed ar gyfer ei gwsmeriaid heb amharu ar y blaned. Mae hyn yn golygu bod rhaid i ni wneud ein rhan.

Lle i gychwyn?

Rydym ni bob amser wedi gweithio’n galed i fod mor wyrdd ag sy’n bosib ond rydym yn sylweddol bod rhaid i bethau ddigwydd yn gynt erbyn hyn.

Cam cyntaf y broses oedd mesur lle rydym ni nawr. Bu i ni weithio efo’r Ymddiriedolaeth Garbon i’n cefnogi ni yn ystod camau cyntaf y siwrnai a nodi ein amcan o fod yn Carbon Sero Net erbyn 2030.

Helpodd yr Ymddiriedolaeth Garbon ni ddeall ein ôl-troed carbon. Roedd hyn yn dweud wrthym ni lle rydym ni yn effeithio fwyaf ar yr amgylchedd.

Nid yw’n syndod na’r ffactor fwyaf yw llosgi tanwydd ffosil (fel nwy a disel). Mae 4% o’n heffaith yn dod o redeg ein swyddfeydd a gweithgareddau ac mae 96% yn dod o’r cartrefi rydym yn eu rheoli a chefnogi.

Sut fedrwn ni wneud hyn?

Rydym wedi llunio ein Strategaeth Datgarboneiddio 2020 – 2030 i wybod beth yw maint a chyflymder y mesurau sydd eu hangen i leihau ein heffaith gyffredinol ar yr amgylchedd.

Mae’r strategaeth hon yn nodi ein targedau uchelgeisiol ond sydd o fewn ein cyrraedd erbyn 2030 a thu hwnt. Mae’n dangos pa gyfleoedd ac ymyrraeth datgarboneiddio sy’n addas, sut gallwn eu gwneud a beth fydd eu heffaith dros amser.

default

Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth

Mae hwn yn gynllun mawr a beiddgar ac rydym yn gwybod na fydd hi’n dasg hawdd.

Ond yn fwy na dim, rydym yn gwybod na fedrwn wneud hyn ar ben ein hunain. Rhaid i ni weithio gyda’n gilydd – gyda’n cwsmeriaid, ein cymunedau, ein holl gontractwyr a sefydliadau sy’n bartneriaid i ni er mwyn llwyddo.

Bydd pobl angen cefnogaeth i wneud y newidiadau.

Bydd pobl angen newid y ffordd maent yn ymddwyn weithiau a newid eu ffordd o fyw a’r ffordd y maent yn cael beth maen nhw ei angen i fyw bywyd diogel a chyffyrddus.

Beth fedrwn ni ei wneud?

Mae hyn yn digwydd rŵan…

Yn y byr dymor, rydym wedi cychwyn ar y newidiadau yn barod.

Y ffordd hawsaf o leihau allyriadau carbon yw lleihau faint o ynni sy’n cael ei ddefnyddio yn y lle cyntaf.

Mae hyn yn digwydd yn barod gydag offer effeithlon ac insiwleiddio gwell yn ein cartrefi a swyddfeydd. Mae mwy o wybodaeth ar gael i’n cwsmeriaid a staff ar sut i leihau faint o ynni maen nhw’n defnyddio.

Rydym yn defnyddio a phrynu ynni adnewyddadwy lle bynnag mae hynny’n bosib ac rydym yn adeiladu cartrefi newydd i’r safonau amgylcheddol uchaf un.

Rydym yn newid ein cerbydau i rai trydan lle gallwn ni ond bydd hyn yn ddibynnol hefyd ar bartneriaid eraill, er enghraifft, i wneud yn siŵr bod yna ddigon o bwyntiau gwefru yn lleol.

Rydym yn symud o ddefnyddio nwy a disel fel y brif ffynhonnell tanwydd ac yn defnyddio trydan fel ffordd fwy cynaliadwy o bweru ein cartrefi, swyddfeydd a cherbydau.

Y ffordd orau o newid y ffordd rydym yn gwneud pethau ar hyn o bryd yw wrth adnewyddu ein cartrefi ar gyfer y dyfodol. Er enghraifft, efallai y byddwn yn gwella’r insiwleiddio mewn rhai cartrefi ac yn gosod golau LED mewn rhai eraill.

 

Mae addysg yn bwysig iawn hefyd. Byddwn yn gwneud yn siŵr bod ein holl gwsmeriaid neu rai sy’n gweithio efo ni yn gwybod sut i gyfrannu i gyrraedd ein targed sero erbyn 2030.

Yn y dyfodol?

Rydym yn gwybod bod angen gwneud newidiadau mawr i gyrraedd ein targedau felly bydd rhaid i bethau ddigwydd yn gyflym er mwyn i ni lwyddo.

Nid sut rydym yn gwresogi a phweru ein cartrefi yn unig fydd hyn na pha fath o offer byddwn yn eu gosod.

Rydym hefyd yn ystyried sut fedrwn ni greu ein hynni ein hunain mewn cartrefi a thir sy’n berchen i ni. Mi fedrwn ni wneud hyn mewn partneriaeth lle mae angen yr arbenigedd arnom i wneud hyn ddigwydd.

Rydym yn gwybod bod rhaid i ni fod yn ddewr er mwyn llwyddo a chyflawni’r heriau yma.

Fedrwn ni ddim gwneud hyn ar ben ein hunain ond rydym mewn sefyllfa dda i arwain wrth helpu ein cymunedau cyrraedd y nod.

Risgiau a Heriau

Y prif risgiau a heriau i gyrraedd ein targed yw:

Arian – heb arian allanol ychwanegol, ni fyddwn yn gallu addasu ein cartrefi i fod mor effeithlon ag sy’n bosib gan y bydd y dechnoleg yn ddrud i’w osod ar y dechrau.

Arbenigedd Technegol – Mae yna risg y bydd yr arbenigedd i osod a gwasanaethu’r technolegau newydd yma ar hyn o bryd unai ddim yn bodoli neu fod yna alw mawr amdanynt.

Enw Da / Boddhad Cwsmer – Mae yna risg uchel y byddwn yn amharu ar gwsmeriaid oherwydd lefel y gwaith fydd angen ei wneud yn eu cartrefi.