Rheolwyr

Iwan Trefor Jones

Prif Weithredwr

Iwan yw Prif Weithredwr Grŵp Adra, ar ôl ymuno fel Dirprwy Brif Weithredwr yn 2019.

Cyn hynny, bu Iwan yn Gyfarwyddwr Corfforaethol ar Gyngor Gwynedd am 16 mlynedd, gan roi arweiniad strategol i nifer o wasanaethau gan gynnwys addysg, datblygu economaidd, gwasanaethau priffyrdd a bwrdeistrefol, cynllunio ac adfywio. Ef hefyd oedd Cyfarwyddwr Arweiniol Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, gan arwain ar gais llwyddiannus Cynllun Twf Gogledd Cymru (£1 biliwn), gan weithio’n agos gyda’r sector preifat ar draws y rhanbarth.

Mae Iwan hefyd yn Gadeirydd Gafael Llaw, elusen leol sy’n cefnogi plant a phobl ifanc yr ardal sy’n dioddef o ganser.

Mae Iwan yn frwd dros weithio mewn partneriaeth, yn enwedig i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb ac i greu cyfleoedd. Ei nod yw defnyddio ei sgiliau amrywiol i wneud gwahaniaeth gwirioneddol – yn Adra, Gafael Llaw ac o fewn ei gymuned leol.

 

Sarah Schofield

Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chymunedau

Cyn ymuno â Adra, gweithiodd Sarah fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Bro a Rheoleiddiol i Gyngor Bolton. Cyn ei chyfnod yn Bolton, gweithiodd i Gynghorau Burnley a Tameside.

Yn ogystal â chael gradd mewn Iechyd yr Amgylchedd a Tai, mae Sarah hefyd yn Aelod Siartredig o Sefydliad Iechyd yr Amgylchedd. Ymhellach i’w swyddi yn y sector gyhoeddus, mae Sarah hefyd wedi bod mewn sawl rôl gwasanaethau cwsmer yn y sector breifat.

Mae Sarah yn siaradwr Cymraeg rhugl wedi mynychu’r ysgol drwy gyfrwng y Gymraeg ac astudio addysg bellach ym Mhrifysgol Bangor.

 

Rhys Parry

Cyfarwyddwr Adnoddau

Mae Rhys wedi gweithio mewn swyddi cyllid am 30 mlynedd mewn nifer o sectorau amrywiol, gan gynnwys addysg uwch, llywodraeth leol, y sector dai ac i gwmnïau preifat. Cyn ymuno â Adra yn 2015, bu’n gweithio i Brifysgol Bangor am ddeng mlynedd.

Ar ôl derbyn gradd cyd-anrhydedd mewn Mathemateg a Thechnoleg Gwybodaeth o Brifysgol Manceinion, cymhwysodd Rhys fel cyfrifydd. Mae’n aelod llawn o’r Gymdeithas Cyfrifwyr Siartredig Ardystiedig (ACCA). Mae’n Gadeirydd y Llywodraethwyr ysgol gynradd leol, mae’n siaradwr Cymraeg, ac yn briod â dau o blant.