Llun o'r sioe

Amser sioe i Adra

Mae Adra, cymdeithas dai fwyaf Gogledd Cymru ar ei ffordd i’r sioe’r wythnos hon.

Mae Sioe Sir Meirion yn cymryd lle yn Nhŷ Cerrig,  Ynys ger Harlech ddydd Mercher, 23 Awst ac mi fydd cynrychiolwyr o Adra wrth law i rannu gwybodaeth am weithio i’r gymdeithas dai.

Byddant hefyd yn hyrwyddo’r gyrfaoedd sydd ar gael, swyddi cyfredol ac amlygu cyfleoedd am hyfforddiant a phrentisiaethau sydd ar gael drwy Academi Adra.

Dyma’r tro cyntaf i Adra fynychu’r sioe a daw’r ymweliad yn sgil llwyddiant presenoldeb Adra ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan yn gynharach yn y mis. Dylai pobl sydd â diddordeb mewn canfod gwybodaeth am weithio I Adra ymweld â’r stondin am fwy o wybodaeth.

Mae gwybodaeth hefyd ar gael ar wefan Adra ac ar y cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.

 

(Llun gan Sioe Sir Meirion)