Beth yw’r Ddeddf Rhentu Cartrefi Cymru? 

Beth yw’r Ddeddf Rhentu Cartrefi Cymru? 

  • Yn 2016, pasiodd y Senedd Ddeddf Rhentu Cartrefi gyda’r nod o wneud pethau’n symlach a haws i landlordiaid a thenantiaid i rhentu cartrefi yng Nghymru. Mae’n cyflwyno nifer o newidiadau i ddeddfau tenantiaeth ac mae’n berthnasol i’r sector rhent cymdeithasol a phreifat. 

Pryd fydd yn digwydd? 

  • Bydd hyn yn digwydd o 1 Rhagfyr 2022 ymlaen 

Beth yw pwrpas y Ddeddf Rhentu Cartrefi Cymru?  

  • Symleiddo cytundebau a gwella cyflwr cartrefi rhentu Cymru  
  • Cynnig fwy o ddiogwelwch a sicrwydd i denantiad ac landlordiaid. 

Pwy fydd hyn yn effeithio? 

  • Pob landlord – preifat a chymdeithasol 
  • Pob tenant – preifat a chymdeithasol 

Pam fod hyn yn ddigwydd? 

  • I wneud pethau’n symlach a haws i landlordiaid a thenantiad i rentu cartrefi yn Nghymru. 

Beth sydd yn newid? 

  • Termonoleg newydd e.e. Tenantiaeth fel Contract Meddiannaeth â Tenant yn cael eu adnabod fel Deiliad Contract.  
  • Contract Meddiannaeth yn cymrud lle Cytundeb Tenantiaeth. 
  • Mwy o sicrwydd – 6 mis o rybudd ar yr amod nad yw’r contract yn cael ei dorri. 
  • Rhaid bob cartref fod yn ddiogel – er engraifft larymau mwg sy’n gweithio a phrofion diogelwch trydanol.  
  • Dulliau teg a chyson i ymddygiad gwrth gymdeithasol. 
  • Mwy o hawliau olyniaeth i  basio eich cartref ymlaen 
  • Deiliad Contract yn gallu cael ei ychwanegu neu dynnu heb gorfod dod â contract i ben. 
  • Landlordiad yn gallu adfeddiannu eiddo sydd wedi ei adael heb orchymun llys. 

Beth mae hyn yn ei olygu i mi fel tenant? 

  • Symleiddo a gwella hawliau chi fel tenant  
  • Gwella sut mae landlordiaid yn rheoli cartrefi yng Nghymru. 

Sut fydd y Ddeddf yn effeithio arna i? 

  • Bydd tenanitiad presennol yn derbyn contact o fewn 6 mis o 1 Rhagfyr, fydd yn cymryd lle eich Cytundeb Tenantiaeth. 
  • Bydd tenantiaid newydd o 1 Rhagfyr yn arwyddo contract yn y ffordd arferol ac o fewn 14 diwrnod.  
  • Y contract yn cynnig fwy o ddiogelwch a sicrwydd i chi. 

Ydi cydymffurfio hefo’r ddeddf yma yn mynd i gostio arian i mi neu effeithio ar fy rhent?  

  • Na, ni fydd y Ddeddf yma yn effeithio ar eich rhent nac yn costio dim i chi.  

Fydda i angen gwneud unrhyw beth?  

  • Yr unig beth fyddwch angen gwneud yw darllen eich contact a chyfarwyddro eich hunain ar eich hawliau a cyfrifoldebau.  

Mae’r newidiadau yma wedi cael eu cynllunio gan Lywodraeth Cymru ers peth amser ac maent wedi cael eu craffu a’u cefnogi gan sefydliadau tenantiaid fel TPAS Cymru a Shelter Cymru.