Picture of homes in Maes Padarn Llanberis

Buddsoddi yn ein cartrefi ym Maes Padarn, Llanberis

Rydym wedi dechrau ar waith buddsoddi ar gartrefi ar stâd Maes Padarn, Llanberis er mwyn gwella effeithlonrwydd a safon y cartrefi. Mae’r cynllun buddsoddi yma yn cynnwys 13 o dai a phum bloc o fflatiau. 

Rydym yn deall pa mor bwysig ydi’ch cartrefi. Rydym hefyd yn deall pa mor bwysig ydi ein bod yn parhau i fuddsoddi a gwario ar y tai sydd gennym yn ogystal ag adeiladu tai newydd o safon i gyfarch yr angen tai lleol. 

Un ffordd yr ydym yn cyfarch hyn ydi drwy gynnal gwaith gwella allanol y tai a chynnal gwaith mewn gwahanol ardaloedd yng Ngwynedd, fel Llanberis. 

Mae cadw’r bunt yn lleol, cyfrannu at yr economi lleol yn bwysig i ni. Dyma pam yr ydym yn gweithio gyda chontractwyr lleol sydd hefyd yn rhoi yn ôl i’n cymuned drwy ein cynllun gwerth cymdeithasol ac rydym yn falch o fod wedi penodi W F Clayton fel ein prif gontractwr ar y safle.  

Mae’r gwaith ym Maes Padarn yn cynnwys

  • rhoi to newydd ar y tai
  • insiwleiddio a rendro waliau tu allan
  • gosod ffenestri newydd
  • gosod gwteri newydd
  • gwella llwybrau a ffensys a mwy. 

Mae’n waith sylweddol ar gartref a mae cwblhau gwaith fel hyn yn cymryd amser. Ond rydym yn teimlo fod buddsodi arian ac amser i wneud y gwaith yma yn un o’n prif flaenoriaethau ni.  Gyda phrisiau ynni yn cynyddu a chostau byw mor uchel rydym yn deall y pwysau sydd ar bawb gan gynnwys ein cwsmeriaid ac felly yn deall pwysigrwydd gwneud eich cartref y mwyaf effeithlon â phosib.    

Rydym yn edrych ymlaen at weld y gwaith yma’n mynd ymlaen ac i’w gweld wedi cwblhau.