Llun o arwydd y tu allan i Dy Gwyrddfai

Buddsoddiad sylweddol wedi ei gadarnhau ar gyfer gweithgaredd datgarboneiddio yng Ngwynedd

Mae Adra, cymdeithas dai fwyaf Gogledd Cymru a phartneriaid wedi cael £1.45 miliwn drwy Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar gyfer pedwar prosiect arloesol sy’n torri tir newydd i hybu ymdrechion datgarboneiddio yn y rhanbarth.

Cadarnhawyd y buddsoddiadau yn y rownd ddiweddaraf o geisiadau am arian Cronfa Ffyniant Gyffredin sy’n cael ei weinyddu gan Gyngor Gwynedd.

Mae £300,000 yn cael ei ddyfarnu i gefnogi partneriaeth Prosiect Sero Net Gwynedd i gyflogi tîm o Ymgynghorwyr Ynni sy’n gweithredu ar draws y sir i annog trigolion i ddod yn fwy ynni effeithlon.

Mae £500,000 yn cael ei fuddsoddi yn y cyfleuster hyfforddi yn Nhŷ Gwyrddfai, yr hwb datgarboneiddio newydd sbon ym Mhenygroes, Gwynedd. Mae’r partneriaid sef Adra, Grŵp Llandrillo Menai a Phrifysgol Bangor, wedi creu canolfan hyfforddi i gynyddu sgiliau datgarboneiddio ac ôl-ffitio cartrefi. Mae’r gwaith hwn yn cael ei arwain gan Dîm hyfforddiant arbenigol Busnes@LlandrilloMenai o CIST (y Ganolfan Isadeiledd, Sgiliau a Thechnoleg).

Mae’r Gronfa Ffyniant Gyffredin hefyd wedi dyrannu £400,000 tuag at y gost o adeiladu a chreu ‘Labordy Byw’ yn Nhŷ Gwyrddfai. Bydd y labordy yn cael ei ddefnyddio ar gyfer profion rheoledig ar ddeunyddiau adeiladu / ôl-osod. O fewn y cyfleuster bydd dwy siambr yn cael eu hadeiladu i efelychu ffactorau amgylcheddol mewnol ac allanol, fel gwres eithafol, oerfel eithafol, gwynt a glaw. Bydd y cyfleuster unigryw hwn yng Nghymru yn chwarae rhan allweddol wrth gyflymu’r cynnydd tuag at ddylunio tai carbon isel a sero net. Bydd y Labordy Byw yn cael ei redeg a’i reoli gan Brifysgol Bangor.

Bydd Academi Adra, prosiect a lansiwyd yn 2021 gyda’r nod o gefnogi cwsmeriaid Adra i ennill cymwysterau newydd a’u paratoi ar gyfer cyflogaeth, yn derbyn £256,000 i gyflwyno rhaglen o gyrsiau pythefnos, gan gyfuno hyfforddiant achrededig a phrofiad gwaith yn y sector o ddewis y sawl sy’n cymryd rhan. Bydd y rhain yn amrywio o atgyweirio a chynnal a chadw, adeiladu, gofal/cefnogi pobl a gwasanaethau cwsmeriaid/gweinyddiaeth. Yn dilyn ymlaen o’r cwrs pythefnos bydd 24 o gyfleoedd cyflogaeth gyda thâl o 24 awr yr wythnos dros 16 wythnos ar gael.

Dywedodd Iwan Trefor Jones, Prif Weithredwr Adra: “Mae’r rhain yn ddatblygiadau hynod gyffrous a fydd yn helpu i ddatblygu ein gwaith ar gyfleoedd hyfforddi ar gyfer ein tenantiaid a’n pobl ifanc, ac rydym wrth ein bodd ein bod wedi bod yn llwyddiannus yn ein ceisiadau am arian.

Bydd llawer o’r prosiectau hyn yn cael effaith sylweddol ar ein gwaith ym maes datgarboneiddio, yn ogystal â gwella cyfleoedd hyfforddi yn ein rhanbarth.

 

“Rydym wedi gweithio gyda llawer o’n partneriaid i ddatblygu’r gwaith hwn ac mae’n ddull partneriaeth i raddau helaeth. Mae gwaith cyffrous ac arloesol wedi digwydd yn barod i symud y gweithgareddau hyn yn eu blaenau ac mae’r sylfaen yn ei le. Bydd y cyllid hwn yn mynd â’n gwaith i’r lefel nesaf ac yn ein rhoi ar flaen y gad yn yr agenda hyfforddi, newid hinsawdd a datgarboneiddio yng Ngogledd Cymru.