Cadwch lygad ar y bregus a’r henoed y gaeaf hwn

Mae nifer o gymdeithasau tai ac awdurdodau lleol Gogledd Cymru yn cefnogi galwad i drigolion gadw llygad ar eu cymdogion, ffrindiau a theulu oedrannus a bregus y gaeaf hwn.

Gyda disgwyl tywydd oerach a dyddiau’n mynd yn fyrrach, gall fod yn amser anodd i rai unigolion gyflawni eu gweithgareddau o ddydd i ddydd, fel siopa a mynd allan o gwmpas eu cymunedau.

Y gaeaf hwn, mae Cymdeithasau Tai Adra, Clwyd Alyn, Tai Gogledd Cymru, Grŵp Cynefin a Chartrefi Conwy, yn ogystal â Chyngor Sir Ddinbych a Chyngor Gwynedd yn annog pobl i fod yn gymydog da’r gaeaf hwn.

Dywedodd Sarah Schofield, Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chymunedau Adra: “Gall dyddiau tywyll y gaeaf fod yn unig ac yn ynysig i rai pobl oedrannus a bregus. Efallai y bydd rhai yn penderfynu peidio â gadael eu cartrefi am ddyddiau oherwydd y tywydd a bosib gall hwn rwystro pobl rhag gweld pobl eraill.

“Gall gweithred syml o garedigrwydd fel galwad ffôn sydyn neu ymweliad i wirio eu lles fod yn achubiaeth wirioneddol i rai unigolion a byddant yn hynod ddiolchgar. Gall wneud gwahaniaeth mawr i’w hiechyd a’u lles a gall gweithredoedd hael fel cynnig i siopa am nwyddau neu hanfodion fynd yn bell i wneud i bobl deimlo’n ddiogel yn eu cartrefi.

“Mae llawer o bobl eisoes yn cadw llygad am eu cymdogion, ac mae hwn yn gyfle gwych i ddiolch i bawb sydd eisoes yn cefnogi cymydog. Rydyn ni’n gwybod cymaint maen nhw’n gwerthfawrogi’r gefnogaeth o’r hyn y mae tenantiaid wedi’i ddweud wrthym ar ein hymweliadau ystâd. Mae’n ein helpu i ddod â’n cymunedau ynghyd”.