Canolfan ddatgarboneiddio newydd yng ngogledd Cymru yn dod â swyddi i Benygroes

Rydym yn falch o fod yn arwain partneriaeth ddatgarboneiddio unigryw sy’n adfywio cymunedau ar draws gogledd Cymru gan gynnwys buddsoddi mewn hen ffatri ym Mhenygroes gan greu mwy na 130 o swyddi lleol. 

Rydym yn adeiladu ar lwyddiant ein partneriaeth Prosiect Sero Net Gwynedd, a enillodd Wobr Tai Gogledd fawreddog yn ddiweddar am y Dull Gorau o Gynaliadwyedd, gan ddarparu canolfannau rhagoriaeth ar gyfer datgarboneiddio ar draws gogledd Cymru. 

Ymhlith y partneriaid allweddol ar gyfer ein canolfan datgarboneiddio ym Mhenygroes rydym ni, Travis Perkins, Grŵp Llandrillo Menai a Welcome Furniture yn arwain ar y gwaith adfywio hen ffatri wag Northwood, a gaeodd yn ystod y pandemig. 

Bydd swyddi a sgiliau hanfodol yn dod yn ôl i’r ardal led-wledig hon o Wynedd, gyda thrawsnewid y gofod warws 120,000 troedfedd sgwâr yn gyfleuster hyfforddi ar gyfer arddangos, gosod a chynnal a chadw cynnyrch a deunyddiau sy’n gysylltiedig â datgarboneiddio cartrefi. 

Bydd y ganolfan datgarboneiddio newydd ym Mhenygroes, sydd wedi derbyn £230,000 o gyllid ar gyfer cam cyntaf y prosiect gan Grant Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, yn cefnogi uchelgeisiau twf Adra, gan ddod yn brif ganolfan ar gyfer tîm cynnal a chadw Adra sef ein tîm trwsio.

Bydd Travis Perkins hefyd yn adleoli i Benygroes o Peblig gydag agoriad swyddogol ar gyfer y canolbwynt yn ddiweddarach yn y flwyddyn, gyda phartneriaid yn gweithio ar y cyd â sefydliadau cymunedol cynaliadwy lleol megis Antur Waunfawr, y Ganolfan Biogyfansoddion ac M-SParc. 

Bydd y ganolfan datgarboneiddio yn datblygu sgiliau i osod a chynnal systemau solar, pwmp gwres domestig a dŵr poeth solar thermol. 

Dywedodd Julie James, Gweinidog Cymru dros Newid Hinsawdd: 

“Mae’n ysbrydoledig gweld ehangder dull system gyfan y bartneriaeth arloesol hon o ddatgarboneiddio, gan arwain y ffordd o ran mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ledled Cymru a dangos ei hymrwymiad i osod y safonau sero net uchaf yn y DU.” 

Dywedodd Iwan Trefor Jones, ein Dirprwy Brif Weithredwr yma yn Adra: 

“Rydym mor falch o’n partneriaeth aml-asiantaeth unigryw, y gyntaf yn y Deyrnas Unedig, gan sefydlu Canolfan Ragoriaeth mewn Datgarboneiddio wedi’i hangori’n rhanbarthol ym Mhenygroes. 

“Bydd ein partneriaeth yn sicrhau y gall Gwynedd arwain ar ddatgarboneiddio a dysgu o’r profiad i ysbrydoli dulliau tebyg ledled Cymru a thu hwnt. 

“Rydym yn cyflymu’r newid i sero net ar draws ein cymunedau, yn y pen draw i leihau biliau i drigolion sy’n wynebu argyfwng costau byw. 

“Mae’r buddion hirdymor yn bellgyrhaeddol, yn gweithredu fel catalydd i sicrhau’r newidiadau sydd eu hangen i ddatgarboneiddio cartrefi yng Ngwynedd, adfywio cymunedau a chreu cyfleoedd economaidd newydd i bobl leol o’r Adferiad Gwyrdd.” 

  Ychwanegodd Cynghorydd Gwynedd ac Aelod Cabinet Tai, Craig ab Iago: 

“Mae’n wych gweld y gymuned yn cydweithio i adfywio’r rhan hon o Benygroes; cryfder y bartneriaeth arbennig hon yw creu ystod eang o gyfleoedd swyddi cynaliadwy ar draws Gwynedd, gan ddarparu llwybr i drigolion allan o dlodi tanwydd. Wrth leihau biliau ynni, mae pobl leol yn dysgu sgiliau newydd ac mae olion traed carbon yn cael eu lleihau, gan alluogi cadwyn gyflenwi leol fwy cadarn.”