Members of CCG handing over a cheque to Wales air ambulance

Casglu bron i £1,500 i Ambiwlans Awyr Cymru

Rydym wedi casglu bron i £1,500 ar gyfer ein elusen y flwyddyn, Ambiwlans Awyr Cymru.

Cafodd elusen Ambiwlans Awyr Cymru ei dewis gan aelodau staff fel elusen y flwyddyn ar gyfer 2018/19. Cafodd bron i £1,500 ei gasglu drwy gynnal amrywiaeth o weithgareddau, her ymarfer corff a chyfraniadau gan gontractwyr oedd yn gweithio ar gynlluniau Adra.

Dywedodd Rheolwr Codi arian Ambiwlans Awyr Cymru, Lynne Garlick: “Diolch yn fawr i staff Adra am eu cyfraniad arbennig. Pob blwyddyn, rydym angen casglu £6.5 miliwn i gynnal y gwasanaeth yma sy’n achub bywydau. Dim ond drwy garedigrwydd pobl Cymru y gallwn barhau i safio bywydau 365 diwrnod y flwyddyn. Mae bob taith ar gyfartaledd yn costio £1,500, felly mae pob cyfraniad gwirioneddol yn gwneud gwahaniaeth. Diolch yn fawr am eich cefnogaeth.”

Ychwanegodd Delyth Williams, ein Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Pobl : “Rydym yn hynod falch o fod yn cefnogi elusen mor deilwng â’r Ambiwlans Awyr, ac rydym yn falch iawn o’n staff a’u teuluoedd a ffrindiau sydd wedi casglu’r arian hwn ar gyfer yr elusen.

“Cafodd y penderfyniad i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru ei wneud gan ein staff, sy’n flynyddol yn dewis drwy bleidlais pa elusen i gefnogi pob blwyddyn. Cafodd yr elusen ei dewis oherwydd y gwasanaeth hanfodol maent yn darparu, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig fel Gwynedd. Mae nifer o’n staff, neu deulu a ffrindiau wedi dibynnu ar y gwasanaeth. Cafodd nifer o syniadau casglu arian a’r gwaith trefnu ei wneud gan staff a dwi’n hynod o falch o’u hymdrechion.”

Elusen leol Gafael Llaw sy’n cefnogi plant efo cancr sydd wedi ei dewis gan staff ar gyfer 2019/2020.