Picture of the new instrument at Miri Melyd.

Creu sŵn yn Miri Melyd

Bydd ieuenctid mewn cylch chwarae ac ysgol gynradd yng Ngallt Melyd yn taro’r nodiadau cywir ar ôl derbyn rhodd o offeryn cerdd awyr agored.

Gwnaed y rhodd o gloch buwch gan Castle Green Homes i gylch chwarae Miri Melyd yn Ysgol Melyd ger Prestatyn.

Castle Green Homes yw’r contractwyr sy’n gweithio ar ddatblygiad tai Cymdeithas Tai Adra ar Fferm Plas Newydd, Prestatyn sy’n golygu adeiladu 102 o gartrefi newydd sbon.

Dywedodd Ceri Ellis Jackson, Cydlynydd Gwerth Cymdeithasol Adra: “Fel landlord cymdeithasol, mae gennym ni gyfrifoldeb i wneud yn siŵr bod ein buddsoddiad yn darparu buddion ychwanegol ac yn rhoi rhywbeth yn ôl i gymunedau lleol. O ganlyniad, gofynnwn i’n contractwyr feddwl sut y gallant ddarparu buddion cymunedol fel rhan o’r gwaith o adeiladu cartrefi newydd ac mae’n wych gweld Miri Melyd ac Ysgol Melyd yn elwa mewn ffordd mor greadigol”.

Dywedodd Hannah Greenfield o Castle Green Homes: “Cysylltodd y cylch chwarae am roddion i helpu i wella’r ardaloedd awyr agored ar gyfer eu lleoliadau, yn benodol offerynnau cerdd sy’n gwrthsefyll y tywydd. Rydym wedi prynu cloch gowboi fawr a ffrâm ar ei phen ei hun a gostiodd £858 gan mai dyma un o’r eitemau a grybwyllwyd ganddynt yn benodol.’

Dywedodd Dafydd Jones, Pennaeth Ysgol Melyd: “Rydym yn ddiolchgar i Castle Green Homes am eu rhodd hael.”

Ychwanegodd Clare Dyche, rheolwr cylch chwarae Miri Melyd, “Dyma’n union beth roedden ni ei eisiau a gall plant fod yn greadigol mewn ffordd gerddorol a gwneud ychydig o sŵn. Mae’n ychwanegiad gwych i’n maes chwarae”.