Llun CGI o'r datblygiad yn cynnwys tai a byngalos

Croesawu newyddion cynllunio yn Y Felinheli

Rydym ni, un o brif ddarparwyr tai fforddiadwy yng ngogledd Cymru yn croesawu’r penderfyniad cynllunio ar gyfer 23 o dai fforddiadwy i bobl leol yn Y Felinheli.

Mae caniatâd cynllunio wedi ei roi i ddatblygu’r safle ger Y Wern, Felinheli i gynnwys 23 o gartrefi modern, gan gynnwys 15 o dai, 4 byngalo, a 4 fflat sy’n gymysgedd o gartrefi rhent cymdeithasol a rhent canolradd.

 

Yn dilyn cael caniatâd cynllunio mis diwethaf, y bwriad yw y bydd y gwaith datblygu yn cychwyn ar y safle yn yr haf.

Dywedodd Huw Evans, ein Pennaeth Datblygu: “Rydym yn falch bod y datblygiad hwn wedi cael caniatâd cynllunio, ac edrychwn ymlaen at weld y gwaith yn dechrau ar y safle.

“Mae cymaint o alw am dai fforddiadwy yng Ngwynedd a gogledd Cymru, sy’n adlewyrchu’r darlun cenedlaethol. Rydym wedi gwneud ymrwymiad cadarn yn ein Cynllun Corfforaethol i adeiladu cartrefi newydd y gall pobl leol fod yn falch ohonynt, sy’n effeithlon o ran ynni, o ansawdd uchel ac yn fforddiadwy o ran rhent a chostau gwresogi.”

Mae’r datblygiad hwn yn rhan o bartneriaeth rhwng Cyngor Gwynedd a Chymdeithasau Tai fel rhan o Raglen Ddatblygu Tai Fforddiadwy Gwynedd. Ariannwyd y cynllun gan Lywodraeth Cymru drwy Grant Tai Cymdeithasol Cyngor Gwynedd.

Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd:

“Mae angen dybryd am fwy o dai fforddiadwy yng Ngwynedd, a dw i’n croesawu’r newyddion gwych fod Adra wedi derbyn caniatâd cynllunio i symud ymlaen efo’r datblygiad yma yn Y Felinheli.

“Gan gydweithio ag Adra a chymdeithasau tai eraill, mae’r Cyngor wedi ymrwymo i gynyddu’r cyflenwad tai yng Ngwynedd, ac mae Rhaglen Datblygu Tai Fforddiadwy Gwynedd yn rhan allweddol o’r ymdrechion i sicrhau fod gan bobl Gwynedd fynediad at gartrefi addas o safon, sy’n fforddiadwy yn eu cymunedau eu hunain. Mae hyn yn rhan o Gynllun Gweithredu Tai ehangach gan y Cyngor sy’n anelu at greu dros 1000 o gartrefi newydd dros y blynyddoedd nesaf.”

Y gobaith yw y bydd y cartrefi wedi eu cwblhau erbyn gwanwyn 2026.

Os oes gennych ddiddordeb yn un o’r cartrefi Rhent Cymdeithasol cofrestrwch gyda Thîm Opsiynau Tai Gwynedd Cyngor Gwynedd. Os ydych wedi cofrestru am gartref cymdeithasol yng Ngwynedd yn barod, nid oes angen cofrestru eto. 01286 685100 | opsiynautai@gwynedd.llyw.cymru

Os oes gennych ddiddordeb yn un o’r cartrefi Rhent Canolradd mae angen i chi gofrestru gyda Tai Teg www.taiteg.org.uk/cy/