Croesawu Siân Gwenllian AS a Hywel Williams AS i Gae Rhosydd
Croesawodd cymdeithas tai Adra, Siân Gwenllian AS a Hywel Williams AS i Gae Rhosydd yr wythnos diwethaf i weld sut mae hen dir fferm llawn hanes ger Rachub wedi cael ei drawsnewid i greu datblygiad tai fforddiadwy.
Mae Adra, cymdeithas dai fwyaf gogledd Cymru wedi datblygu’r safle i gynnwys 30 o gartrefi modern, gan gynnwys 26 tŷ a 4 byngalo, sy’n gymysgedd o gartrefi rhent cymdeithasol a rhent canolraddol.
Mae’r holl dai ar y datblygiad gyda thystysgrif perfformiad egni (EPC) o A, gyda phaneli solar, yn cael eu gwresogi drwy Bympiau Gwres Ffynhonnell Aer a gyda phwyntiau gwefru ceir trydan.
Mae’r datblygiad hwn yn rhan o bartneriaeth rhwng Cyngor Gwynedd a Chymdeithasau Tai fel rhan o Raglen Ddatblygu Tai Fforddiadwy Gwynedd. Ariannwyd y cynllun gan Lywodraeth Cymru drwy Grant Tai Cymdeithasol Cyngor Gwynedd sydd yn anelu at gyflawni nod y Cyngor o godi 700 o dai cymdeithasol ar draws y sir erbyn 2026/27.
Dywedodd Iwan Trefor Jones, Prif Weithredwr Adra: “Rydym yn falch iawn o weld y datblygiad wedi’i gwblhau a bod tenantiaid wedi symud mewn.
“Mae cymaint o alw am dai fforddiadwy yng Ngwynedd a gogledd Cymru, sy’n adlewyrchu’r darlun cenedlaethol. Mae Adra wedi gwneud ymrwymiad cadarn yn ein Cynllun Corfforaethol i adeiladu cartrefi newydd ynni effeithlon, o ansawdd uchel ac yn fforddiadwy o safbwynt rent a chostau gwresogi.”
Ychwanegodd Siân Gwenllian AS: “Mae cyfran uchel o’m llwyth gwaith achos yn ymwneud â’r angen dybryd lleol sydd am dai, ac mae’n braf ymweld â datblygiad newydd sy’n chwarae rhan wrth fynd i’r afael â’r angen hwnnw.
“Mae’n wych clywed hefyd bod cynaliadwyedd wrth galon y datblygiad, a bod Adra yn gwneud eu rhan wrth fuddsoddi mewn technoleg werdd er mwyn lleihau ôl-troed carbon y tai.
“Rwy’n edrych ymlaen at weld teuluoedd ac unigolion lleol yn dechrau pennod newydd yn eu bywydau yn y tai hyn, gan sicrhau fod cymuned Rachub yn parhau i ffynnu.”
Dywedodd Hywel Williams AS: “Roeddwn yn falch iawn o’r cyfle i ymweld â’r datblygiad newydd. Mae’r safon yn ardderchog a bydd y tai a’r byngalos yn rhoi y cartrefi clud parhaol i bobl lleol mae cymaint o alw amdano.”