Croesi’r ffin i ddarparu mwy o dai

Mae cymdeithas dai Adra yn datblygu partneriaethau newydd ar draws y gogledd, gyda gwaith ar dros 50 o unedau newydd yn dechrau yng Nghonwy.

Derbyniodd Adra ganiatâd i dderbyn arian grant i adeiladu yn Conwy, Dinbych a Wrecsam. Mae hyn yn golygu bod Adra yn gallu gwneud cais i Llywodraeth Cymru i adeiladu tai yn y siroedd hyn yn ogystal â Gwynedd.

Mae Adra yn gweithio mewn partneriaeth gyda Cyngor Conwy a contractwyr lleol ar pedwar cynllun ar draws y sir.

Mae ein Prif Weithredwr Ffrancon Williams yn egluro: “Rydym yn sefydliad blaengar sy’n tyfu ac yn anelu i adeiladu 800 o dai ar draws gogledd Cymru dros y saith mlynedd nesaf. Rydym wedi sefydlu nifer o bartneriaethau cyffrous gyda awdurdodau lleol, gyda cofrestr dai SARTH (Llwybr Mynediad Sengl i Dai) a cofrestr tai fforddiadwy, Tai Teg. Yn ogystal a nifer o gontractwyr a cwmnïau fydd yn gweithio gyda ni i adeiladu’r tai.

“Hoffwn ddiolch wrth ein partneriaid yn Cartrefi Conwy am ein croesawu fel partner o ddewis, ac rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu mwy o dai yn y sir gyda eu cefnogaeth dros y blynyddoedd nesaf.

“Rydym yn benderfynol o sicrhau bod gan bobl ar draws gogledd Cymru gartrefi o safon a’r gefnogaeth maent angen i fyw a ffynnu yn ein cymunedau. Drwy weithio gyda ein partneriaid newydd rydym yn hyderus y gallwn ehangu ein cwmni i gyflawni hyn, tra’n parhau’n ffyddlon i’n tenantiaid craidd yng Ngwynedd. Mae amser cyffrous o’n blaenau.”

Ychwanegodd Y Cynghorydd Elizabeth Roberts, Aelod Cabinet Gwasanaethau Oedolion, Cymunedau a Thai Cyngor Conwy: “Rydym yn falch o groesawu Adra i Conwy, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw i ddarparu tai fforddiadwy o safon er mwyn cynnig mwy o dai fforddiadwy i bobl leol ar draws Conwy.

Os oes gennych ddiddordeb mewn rhentu tŷ cymdeithasol, cofrestrwch eich manylion gyda cofrestr dai Conwy (SARTH): 0300 124 0050 / www.conwyhousing.co.uk

Os oes gennych ddiddordeb mewn rent tŷ rhent canolradd neu rhentu i berchnogi cofrestrwch eich manylion ar wefan Tai Teg: www.taiteg.org.uk

Mae’r cynlluniau yma yn cael eu ariannu gan ddatblygwyr preifat, Adra a Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.