Cwmni lleol newydd i adeiladu cartrefi newydd i’w gwerthu gyda’r elw yn cael ei ail-fuddsoddi at ddibenion cymdeithasol

Rydym wedi lansio cwmni datblygu newydd i adeiladu cartrefi newydd i’w gwerthu ar y farchnad agored ym mhob rhan o ogledd Cymru.  

Cafodd y cwmni newydd o’r enw Medra Cyfyngedig ei ffurfio i fynd i’r afael â’r galw mawr am gartrefi o ansawdd i’w prynu yn lleol.  

Bydd yr elw yn sgil gwerthu cartrefi Medra yn cael ei ail-fuddsoddi yn Adra i gyllido ein gwasanaethau craidd ac i ddarparu mwy o dai cymdeithasol a fforddiadwy yng ngogledd Cymru. 

Y cynllun cyntaf ar gyfer Medra fydd safle Penyffridd, Bangor. Bydd cymsygedd o 18 tŷ dwy a thair ystafell wely yn cael eu hadeiladu i’w gwerthu ar y farchnad agored. 

Hefyd, bydd 12 tŷ fforddiadwy ar gyfer rhent cymdeithasol a chanolradd ar y safle. Adra fydd yn darparu’r rhain, i ddiwallu’r angen lleol am dai. 

Dywedodd Hywel Eifion Jones, cadeirydd Grŵp Adra: “Mae hon yn fenter newydd ar gyfer Adra ac rydym wedi dewis sefydlu Medra fel is-gwmni i adeiladu cartrefi newydd i’w gwerthu ar y farchnad agored.  Bydd yr elw a gynhyrchir gan Medra yn cael ei ailfuddsoddi yn Adra, yn cefnogi tai cymdeithasol a fforddiadwy i ddiwallu’r galw lleol am dai. 

“Mae twf Adra ers 2016 wedi arwain at ddatblygu dros 500 o gartrefi newydd. Mae ystod o wahanol ddeiliadaethau ar gael a darperir cartrefi cymdeithasol a fforddiadwy y mae galw mawr amdanynt ymhlith pobl leol. Mae’r galw yn tyfu, ac rydym mewn sefyllfa dda i roi hyn yn oed fwy o gartrefi a gwasanaethau i’r rheini sydd eu hangen” ychwanegodd. 

“Ond yn sicr bydd pwysau ar strwythurau cyllido presennol i adeiladu mwy o dai fforddiadwy, felly, mae angen i ni fod yn barod ac yn ddigon cadarn i chwilio am ffrydiau incwm eraill i gefnogi ein rhaglen uchelgeisiol i adeiladu cartrefi cymdeithasol a fforddiadwy newydd i ddiwallu’r galw lleol. 

Meddai Will Nixon, Cadeirydd Medra: “Mae lansio ein cynllun cyntaf yn hynod gyffrous. Fel cwmni, mae gwerthoedd Medra wedi’u gwreiddio yn y cymunedau yr ydym yn gweithio ynddynt ar hyd a lled Gogledd Cymru. Ein hymrwymiad yw adeiladu cartrefi o ansawdd i’w gwerthu ar y farchnad agored i ddiwallu galw lleol a chynhyrchu cyfleoedd cyflogaeth lleol. Rydym yn falch iawn ein bod yn gweithio gyda chontractwyr a chyflenwyr lleol er budd yr economi leol yn ein datblygiad cyntaf yn safle Penyffridd, Bangor. 

Penodwyd contractwyr Gogledd Cymru, Beech Dvelopments i adeiladu’r cartrefi newydd yn safle Penyffridd ar gyfer Medra.  

Dywedodd Matthew Gilmartin, Rheolwr Gyfarwyddwr Beech Construction:  

“Mae’n bleser gennym gael ein penodi gan Medra fel partner datblygu ar gyfer eu cynllun tai newydd cyntaf, Cae Ffynnon, ym Mangor. Mae gennym hanes hir o adeiladu a gwerthu cartrefi newydd cynaliadwy yng Ngogledd Cymru, gyda thros 25 mlynedd o brofiad yn y maes. Bydd cynllun cyntaf Medra yn darparu buddion cymunedol sylweddol, nid yn unig o ran tai lleol ond hefyd yn cyfrannu at ac yn cefnogi cyflogaeth leol a’r economi ehangach. Rydym yn edrych ymlaen at ddechrau gweithio ar y safle yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd”.   

Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Elin Rowlands yn swyddfa wasg Grŵp Adra ar 01248 677183 neu e-bost elin.rowlands@adra.co.uk a dilynwch Medra ar www.taimedrahomes.co.uk ac ar y gwefannau cymdeithasol @taimedrahomes