Councillors and Board members in Ty Gwyrddfai

Cydweithio gyda Phrifysgol Bangor

Rydym ni a Prifysgol Bangor wedi arwyddo Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MoU) i ddatblygu sgiliau ac ymchwil i ddatgarboneiddio tai.

Mae’r cytundeb yn gweld Prifysgol Bangor yn dod yn bartner allweddol yn ein Hwb Datgarboneiddio, a gafodd ei sefydlu ym yn 2021 gyda’n partneriaid allweddol, cwmni deunyddiau adeiladu Travis Perkins a Grẃp Llandrillo Menai. Mae’r hwb wedi ei gefnogi gan Gronfa Adnewyddu Cymunedol Llywodraeth y DU a Chronfa Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Bydd yr Hwb Datgarboneiddio yn gweithredu fel cyfleuster i arloesi, darparu hyfforddiant sgiliau a datblygu a phrofi deunyddiau newydd a sut y gallent gael eu defnyddio i gefnogi datgarboneiddio. Rydym yn croesawu cydweithio gyda partneriaid a dymag gyfle gwych i ni a Phrifysgol Bangor i gydweithio.

Wrth arwyddo’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar y safle ym Mhenygroes, dywedodd yr Athro Edmund Burke, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor:

“Wrth i ni geisio sicrhau dyfodol glanach a gwyrddach, mae Prifysgol Bangor yn falch iawn o weithio gyda chymdeithas dai fwyaf Gogledd Cymru i ddatblygu’r dechnoleg, yr arloesedd a’r sgiliau angenrheidiol i ni symud ymlaen yn wirioneddol ar yr agenda datgarboneiddio – maes mor bwysig i’r rhanbarth, ac o ran cynaliadwyedd y blaned yn y dyfodol.”
Ychwanegodd yr Athro Paul Spencer, y Dirprwy Is-ganghellor ar gyfer Ymchwil ac Arloesi:

“Mae cynaliadwyedd wrth wraidd ein strategaeth ac mae gweledigaeth Adra o ran uwchsgilio’r gweithlu lleol a defnyddio syniadau arloesol i ddatgarboneiddio’r stoc tai a deunyddiau adeiladu yn croestorri â’n gweledigaeth ni.
“Er enghraifft, mae ein hymchwilwyr yn ymchwilio i synhwyro optegol ar gyfer ystod o fonitro amgylcheddol, naill ai trwy ymgorffori mewn ceblau data sy’n bodoli eisoes neu drwy baneli clyfar. Rydym hefyd yn profi deunyddiau ar gyfer eu gallu insiwleiddio er mwyn lleihau ôl troed carbon, ac mae datblygiadau hefyd yn cael eu gwneud o ran storio ynni’n fwy effeithlon yn ogystal â deunyddiau adeiladu fel geo-bolymerau sy’n defnyddio gwastraff llechi wedi’i ailgylchu. Mae gan yr Hyb Datgarboneiddio y potensial i ganiatáu gwaith datblygu, treialu yn y maes a phrofi technolegau a deunyddiau arloesol megis rhain mewn amgylcheddau preswyl “go iawn”.

Mae gennym ni yn Adra 6,800 o gartrefi rydym yn eu darparu a 15,000 o gwsmeriaid lleol. Dywedodd Iwan Trefor Jones, ein Dirprwy Brif Weithredwr yma yn Adra:
“Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda phartneriaid fel Prifysgol Bangor i weld beth sy’n bosib o ran darparu sgiliau a chyfleoedd i bobl a busnesau lleol.
“Mae partneriaeth gref yn datblygu gyda sefydliadau allweddol i gyflawni ein huchelgais i ddatgarboneiddio cartrefi yn yr ardal, sydd mor bwysig o ran mynd i’r afael â thlodi tanwydd a hybu’r economi leol. Ein Hwb Datgarboneiddio yw’r cyntaf o’i fath yng Nghymru ac mae’n gyffrous i fod yn arwain prosiect mor arloesol a fydd yn cael effaith mor gadarnhaol ar ein cymunedau.”