Opportunity for your community project to receive money graphic

Cyfle i’ch prosiect cymunedol dderbyn cymorth ariannol

Mae Adra yn cynnig grantiau o hyd at £1,000 i grwpiau cymunedol a gwirfoddol, er mwyn gwella ein cymunedau, a gwella safon byw ein cwsmeriaid.

Oes gennych chi syniad a fyddai’n gwella eich cymuned chi?  Os felly, cysylltwch a’n Tim Cymunedau a Partneriaethau trwy e-bostio cymunedol@adra.co.uk neu ffonio 0300 1238084.

Un grŵp sydd wedi derbyn cefnogaeth yn ddiweddar yw Neuadd Goffa Cricieth, a ddefnyddiodd y grant er mwyn datblygu sioe i ddathlu canmlwyddiant y Neuadd.

Nid oes dyddiad cau penodol i’r gronfa.