Cyfrannu £13,000 at Banciau bwyd lleol

Rydan ni wedi cyfrannu dros £13,000 at Banciau bwyd sy’n lleol i’n tenantiaid a’n cwsmeriaid, wythnos yma.

Rydym wedi cyfrannu £2,500 i Fanciau Bwyd Gwynedd gan gynnwys ardaloedd Bangor, Arfon, Ffestiniog, Pwllheli a de Gwynedd. Rydym hefyd wedi cyfrannu at fanc bwyd yn Rhyl, Wrecsam a Conwy, sy’n lleol i’w tenantiaid tu allan i Wynedd.

Penderfynom wneud hyn am ein bod yn ymwybodol o’r caledi ariannol sy’n wynebu bobl lleol gan gynnwys ein tenantiaid oherwydd y pandemig a’r gaeaf, y cynnydd sydd mewn digartrefedd, diweithdra a chredyd cynhwysol. 

Dywedodd Sarah Schofield, ein Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chymunedau:

“Mae’r banciau bwyd wedi chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi ein tenantiaid yn ystod y pandemig, mae nifer o bobl yn ddibynnol ar gael bwyd o banciau bwyd, dyna ydi’r sefyllfa sydd ohoni gyda diweithdra ar ei lefel uchaf yng Nghymru bellach ac felly rydym yn meddwl ei bod yn holl bwysig rhoi rhywbeth yn ôl i gefnogi ein tenantiaid a’n cymunedau dros y Nadolig a thu hwnt.

“Rydym mor falch fel cwmni o allu rhoi rhywbeth yn ôl i wasanaeth mor hanfodol. Rydym eisiau cydnabod y gwaith gwych sy’n cael ei wneud gan wirfoddolwyr y Banciau Bwyd, fysan nhw ddim yn gallu cael eu rhedeg heb gefnogaeth y gwirfoddolwyr.

“Mae’r arian ydan ni wedi ei gasglu a’i roi yn dod o’n Cronfa Coronafeirws sefydlom yn ystod y pandemig, yn ogystal ag arbedion ydan ni wedi wneud a chyfraniad budd cymunedol gan ein partneriaid, Travis Perkins.”

Dywedodd Trey Mc Cain, Rheolwr Banc Bwyd Arfon:

“Mae lot o bobl yn dod dyma oherwydd eu bod nhw wedi colli gwaith neu yn dioddef o salwch, ac yn ddibynnol ar y gefnogaeth gan y banc bwyd.

“Mae Covid-19 wrth gwrs wedi rhoi pwysau ychwanegol ar bobl, a rydan ni wedi gweld cynnydd yn y galw am gefnogaeth ac mae mwy o fwyd wedi mynd allan i rai mewn angen eleni o gymharu a blynyddoedd cynt.

“Mae’r Nadolig yn gyfnod prysur iawn i ni hefyd. Rydan ni’n cael cefnogaeth wych gan y gymuned leol, ac yn ddiolchgar am gyfraniadau sy’n dod gan siopau a archfarchnadoedd lleol hefyd. Diolch i Adra am y cyfraniad ariannol, bydd yn hwb mawr i ni fel banc bwyd ar ôl blwyddyn heriol iawn.”

Am fwy o wybodaeth am y banciau bwyd lleol, ewch i: www.trusseltrust.org neu ffoniwch 0808 208 2138 – edrychwch hefyd ar wefan eich Cyngor Sir neu ffoniwch eich Cyngor Sir am fwy o wybodaeth.