Cyhoeddi amser ar gyfer prawf Rhybuddion Argyfwng y DU
Mae Cymdeithas Tai Adra yn atgoffa tenantiaid o brawf cenedlaethol o Rybuddion Argyfwng sydd i’w gynnal am 3pm ddydd Sul 23 Ebrill.
Bydd negeseuon yn cael eu hofnon gan Lywodraeth Prydain i ffonau symudol 4G a 5G fel rhan o’r prawf cenedlaethol a bydd y ffonau hyn yn creu sŵn larwm ac yn dirgrynu am hyd at 10 eiliad.
Bydd y sain a’r dirgryniad yn stopio’n awtomatig ar ôl deg eiliad. Y cyfan sydd angen i bobl ei wneud yw llithro’r neges i ffwrdd neu glicio ‘OK’ ar sgrin gartref eu ffôn – yn union fel rhybudd neu hysbysiad ‘batri isel’ – a pharhau i ddefnyddio eu ffôn fel arfer.
Dywedodd Sion Hughes, Cyfarwyddwr Cynorthwyol – Cwsmeriaid a Chymunedau: “Er bod y profion hyn wedi cael llawer o gyhoeddusrwydd yn ddiweddar, efallai y bydd rhai tenantiaid nad ydynt wedi clywed amdano a gallai larwm annisgwyl drwy’r ffôn symudol roi syrpreis i rywun, ac i mewn rhai achosion gall beri gofid.
“Rydym am roi sicrwydd i’n tenantiaid bod disgwyl y larwm hwn am 3pm ddydd Sul, 23 Ebrill ac rydym am ledaenu’r gair am hyn, i wneud yn siŵr bod cymaint o denantiaid â phosibl wedi cael gwybod”.