Sgwteri Symudedd
Gair i Gall am Sgwteri Symudedd
Os ydach chi’n ystyried prynu neu logi sgwter symudedd, cymerwch olwg ar y cyngor yma.
Mae gwahanol fathau o sgwteri symudedd / cymorthyddion symudedd ar ar gael:
DOSBARTH 1: Cadeiriau olwyn maniwal ydi rhain ac felly ni chant eu hystyried fel sgwter symudedd
DOSBARTH 2: Cadeiriau olwyn hefo pŵer, neu sgwter symudedd wedi ei dylunio hefo 3 /4 olwyn i ddefnyddio ar balmentydd sy’n teithio ar gyflymder o 4 milltir yr awr.
DOSBARTH 3: Sgwter 4 olwyn hefocyflymder uchaf o 8 milltir yr awr. Mae gan rhain olau, golau troi, golau rhybuddio,corn a drych edrych i’r tu ôl wedi ei osod yn fewnol neu allanol. Rhaid i chi gofrestru sgwter dosbarth 3 gyda’r DVLA.
Rhestr wirio
Dyma bethau i chi ystyried cyn prynu neu logi sgwter symudedd:
• A fysa chi’n gallu gyrru’r sgwter symudedd yn ddiogel heb achosi perygl i unrhyw berson
• A fysa chi’n gallu gyrru’r sgwter symudedd yn ddiogel heb achosi difrod i’ch cartref
• A fysa chi’n cynnal a chadw’r sgwter yn unol â chyfarwyddiadau a ddaeth hefo’r sgwter
• A fysa chi’n sicrhau bod gennych chi drefniadau priodol rhag ofn iddynt dorri i lawr
• A fysa chi’n trefnu cael yswiriant er mwyn sicrhau yswiriant rhag niwed personol, difrod i fannau mewnol ac allanol a niwed posib i eraill
• A fysa chi’n trefnu prawf PAT (Prawf Offer Cludadwy), blynyddol ar yr offer gwefru a darparu y ddogfen prawf fel tystiolaeth i ni
Cyngor ychwanegol:
• Pe bai hi’n dywyll wrth yrru’r sgwter, dylai defnyddwyr sgwter gael golau priodol ar y sgwter a bod yn fwy gofalus, defnyddio siaced adlewyrchol (High Vis) a gosod bandiau adlewyrchol mewn mannau amlwg ar y sgwter
Mae nifer o broblemau diogelwch tan yn gallu digwydd oherwydd sgwteri symudedd, fel y rhain:
• Achosi rhwystrau mewn mannau cyffredin – ni ddylid eu gadael mewn mannau cyffredin
• Rhwystro llwybrau dianc mewn eiddo tenantiaid – ni ddylid eu gadael yma
• Gwefru mewn llefydd amhriodol – does dim angen gwnued hyn
Storfa Sgwter
Os ydych yn dymuno storfa diogel i gadw eich sgwter, cymerwch olwg ar y Cwestiynau Cyson isod.
Beth yw storfa sgwter?
Lle er mwyn cadw a gwefru sgwteri symudedd tenantiaid yn ddiogel.
Pwy all wneud cais am storfa sgwter?
Rhaid i gwsmeriaid gwrdd â’r criteria canlynol cyn cael eu hystyried am sied sgwter:
- Mae angen i chi fod yn gwsmer neu’n denant i Adra, a’ch bod yn byw mewn safle tai gwarchod neu fflatiau cyffredinol ac felly’n rhannu ardaloedd cyffredin a chynteddau
- Mae angen i chi fod á sgwter symudedd Dosbarth 2 neu 3 (gweler Taflen Ffeithiau Sgwter Symudedd)
- Mae’n rhaid nad oes gennych le addas arall i gadw a gwefru’r sgwter symudedd
Sut i wneud cais am storfa sgwter?
- Gwneud cais am torfa sgwter wrth gwblhau’r ffurflen gais.
- Unwaith y byddwn wedi derbyn eich ffurflen gais bydd eich cais yn cael ei asesu a byddwn yn cysylltu gyda chi wedyn gyda’r penderfyniad.
Ga i gadw pethau eraill a’r sgwter symudedd yn y storfa sgwter?
- Na chewch, mae gennyn ni bolisi sy’n egluro Mai’r sgwter yn unig caiff ie gadw yma. Os na fyddwch yn cadw at y gytundeb gall hyn olygu colli y storfa sgwter.
- Mae ganddom ni’r hawl i wneud archwiliad di-rybudd ar y storfa sgwter ar unrhyw adeg i archwilio ei gynnwys a’i gyflwr.
Oes rhaid i mi dalu am storfa sgwter?
- Fel rhan o’r gytundeb, byddwn yn codi tâl personol blynyddol o £52 am ddefnyddio’r storfa
- Fel rhan o’r gytundeb byddwch yn cael goriad i’r storfa sgwter
- Bydd disgwyl i gwsmeriaid dalu am unrhyw oriadau ychwanegol, os bydd unrhyw oriadau yn malu, cael ei golli neu os oes angen newid cloeon
- Bydd tâl yn cael ei godi ar y tenant am unrhyw ddifrod i’r storfa sgwter sydd ddim yn cael ei weld fel traul a gwisgo arferol
- Bydd rhaid i chi drefnu fod yr offer gwefru yn cael prawf PAT (Prawf Offer Cludadwy) yn flynyddol ac fod tystysgrif yn cael ei ddarparu fel prawf.
- Bydd rhaid trefnu yswiriant priodol – digonol i dalu am unrhyw ddifrod i’n adeiladau neu anaf i bobl eraill sydd yn defnyddio ein safleoedd.
Be’ nesaf?
Os ydych wedi darllen drwy’r ystyriaethau a’r cyngor uchod ac yn meddwl y gallwch fod yn berchennog cyfrifol sgwter symudedd drwy brynu neu llogi, ac eisiau mwy o wybodaeth, cysylltwch hefo ni drwy ffonio 0300 123 8084, ebostio ymholiadau@adra.co.uk neu dros cyfryngau