Diogelwch tân yn eich cartref

Rydym eisiau i chi fod yn ddiogel yn eich cartref, a thrwy ddilyn rhai camau syml gallwch sicrhau eich bod chi a’ch teulu yn aros yn ddiogel.

  • Paratoi at amser gwely

    Rydych deirgwaith yn fwy tebygol i gael eich lladd mewn tân sy’n cynnau gyda’r nos.

    Mae’r rhan fwyaf o danau gartref yn cychwyn yn ddamweiniol a gall effeithiau hynny fod yn ddinistriol – gall y trefniadau  yma cyn mynd i’r gwely helpu i atal tân yn eich cartref.

    • Diffoddwch bob cyfarpar a thynnwch y plwg. (Ar wahân i’r cyfarpar sydd wedi cael eu dylunio i aros ymlaen am gyfnod hir – er enghraifft, oergelloedd a rhewgelloedd)
    • Peidiwch â gwefru unrhyw ddyfais symudol dros nos (ffôn symudol, gliniaduron, e-sgwteri ac e-feiciau)
    • Gwiriwch fod y popty, y gril a’r hob wedi’u diffodd.
    • Peidiwch â gadael eich peiriant golchi, sychwr dillad neu beiriant golchi llestri ymlaen dros nos (Gallant achosi tân oherwydd eu motorau, eu bod yn defnyddio watedd uwch, ac yn golchi â ffrithiant)
    • Diffoddwch wresogyddion nwy a thrydan a rhowch gard o flaen tanau agored.
    • Gwiriwch fod canhwyllau wedi diffodd cyn gadael ystafell, a pheidiwch â gadael un heb neb yn cadw golwg arni.
    • Gwnewch yn siŵr eich bod wedi diffodd eich sigarét, sigâr neu’ch cetyn yn llwyr cyn i chi fynd i’r gwely, a pheidiwch ag ysmygu yn y gwely.
    • Caewch y drysau. Drwy gau drysau, gallwch chi ddiogelu eich llwybr dianc rhag tân. Mae hyn yn hynod bwysig mewn cartrefi lle nad oes modd i chi ddianc drwy ffenestr er enghraifft os ydych yn byw mewn fflat.
    • Gwnewch yn siŵr fod eich llwybr dianc yn glir heb ddim yn ei rhwystro

     

  • Cynllun Dianc

    Dylai bod gan bob cartref rhyw fath o gynllun dianc mewn lle rhag ofn i’r gwaethaf ddigwydd.

    Gobeithio, ni fydd rhaid i chi ei ddefnyddio. Fodd bynnag, mae’n bwysig paratoi fel eich bod yn gwybod beth i’w wneud heb oedi.

    Cynlluniwch gyda’ch gilydd fel teulu – gwnewch yn siŵr bod bob plentyn ar yr aelwyd yn gwybod y cynllun a beth i’w wneud pe bai tân yn digwydd. Mae angen gwneud trefniadau arbennig ar gyfer unrhyw bobl hŷn neu bobl anabl sydd o bosib yn byw gyda chi a sut y byddech yn gofalu eu bod yn dianc.

    Sicrhau bod y llwybr dianc yn ymarferol a’i bod yn bosib ei roi ar waith.

    Dylech gynnal sgyrsiau rheolaidd fel eich bod yn cofio beth i’w wneud. Hefyd, cynghorir i gael ystafell lle gallai pawb aros os byddai’r gwaethaf yn digwydd. Rydym yn awgrymu eich bod yn mynd â ffôn symudol gyda chi os nad oes ffôn yn yr ystafell, fel y gallwch ffonio am help. Gwnewch yn siŵr os oes gennych blant eu bod yn gwybod eich cyfeiriad rhag ofn bod angen iddyn nhw ffonio 999. Rhowch ddillad gwely neu ddillad ar waelod y drws neu du mewn i’r ystafell i atal mwg a gwres rhag dod i mewn.

  • Diogelwch Coginio

    Awgrymiadau ar gyfer coginio’n ddiogel

    • Peidiwch â gadael coginio heb neb yn cadw golwg ar yr hob neu gril – os oes rhaid i chi adael y gegin, diffoddwch y gwres.
    • Os ydych wedi blino, wedi bod yn yfed alcohol neu gymryd meddyginiaeth sydd o bosib yn eich gwneud yn gysglyd, mae’n fwy diogel i beidio â choginio.
    • Gall dillad llac fynd ar dân yn hawdd, felly byddwch yn ofalus rhag plygu dros hob poeth, a chadwch dyweli sychu llestri a chadachau allan o ffordd y popty a’r hob bob amser.
    • Ceisiwch gadw’r popty, hob, hŵd popty, ffan echdynnu a’r gril yn lân – gallai braster a saim gynnau tân yn hawdd.
    • Gwnewch yn siŵr fod y popty a’r hob i ffwrdd ar ôl gorffen coginio.
    • Gwnewch yn siŵr bod y tostwyr yn lân ac nad ydynt yn cael eu cadw o dan gypyrddau cegin neu’n agos at unrhyw beth sy’n gallu mynd ar dân.
    • Peidiwch â rhoi unrhyw beth metel yn y microdon.

    Cadwch olwg ar blant ac anifeiliaid anwes yn y gegin; peidiwch â’u gadael heb eu goruchwylio; rhowch matsis a thanwyr allan o’r golwg; a chadw handlenni sosbenni allan o gyrraedd.

    Beth i’w wneud os yw eich dillad yn mynd ar dân?

    Os ydy’ch dillad chi neu ddillad unrhyw un arall yn mynd ar dân, peidiwch â rhedeg.

    Cofiwch, dylech:
    Aros – Gorwedd – Rholio, sy’n golygu:
    1. Aros – peidiwch â rhedeg, byddwch yn gwneud y fflamau yn waeth.
    2. Gorwedd – gorweddwch ar y llawr ar unwaith.
    3. Rholio – Mewn defnydd trwm neu flanced tân i ddiffodd y fflamau – neu rolio ar y llawr a fydd hefyd yn helpu i ddiffodd y fflamau.

  • Fepio ac e-sigaréts

    Efallai bod fêps yn costio llai na sigaréts ond maent dal yn berygl tân, ac maent dal yn cynnwys nicotin, sy’n hynod o gaeth.

    Mae angen defnyddio e-sigaréts neu fêps yn ddiogel ac ni ddylid eu gwerthu i bobl o dan 18 oed.
    • Prynwch ddyfeisiau e-sigaréts gan werthwyr gydag enw da. Peidiwch â phrynu nwyddau ffug. Mae perygl tân o ran fepio yn aml yn dod o gynhyrchion ffug neu ddiffygiol.
    • Dilynwch y cyfarwyddiadau ar gyfer defnydd yn ofalus a thalwch sylw manwl i unrhyw rybuddion sydd wedi’u cyflenwi gyda’r cynnyrch.
    • Gwnewch yn siŵr bob amser bod e-hylifau allan o gyrraedd plant ac anifeiliaid anwes.
    • Peidiwch â defnyddio fêps neu e-sigaréts yn agos at ocsigen meddygol neu lle defnyddir elïau lleddfol, neu fatresi llif aer.

    Batris a Gwefru

    Mae llawer o risgiau ynghylch fepio ac e-sigaréts yn gysylltiedig gyda batris a sut y maent yn cael eu gwefru, felly:
    • Dylech ond defnyddio’r gwefryddion sydd wedi dod gyda’r ddyfais.
    • Peidiwch â gadael e-sigaréts yn gwefru heb neb yn cadw golwg arnynt neu ymlaen dros nos.
    • Peidiwch â gadael eitemau i’w gwefru yn barhaus (ar ôl cwblhau’r cylch gwefru).
    • Peidiwch â gorchuddio batris sy’n cael eu gwefru, rhag gorboethi.
    • Dylech osgoi storio, defnyddio neu wefru batris mewn tymheredd eithafol o uchel neu isel.
    • Dylech amddiffyn batris rhag cael eu difrodi, rhag cael eu gwasgu, rhag cael twll a pheidiwch â’u trochi mewn dŵr.
    • Peidiwch â gadael eich batri i ddod i gysylltiad gydag eitemau metel fel darnau arian neu oriadau mewn poced neu fag, oherwydd gall hyn achosi torri cylched a ffrwydrad.

  • Tanau Nwy a Gwresogyddion Cludadwy
    • Peidiwch â gosod, trwsio neu wasanaethu cyfarpar eich hun. Bydd Adra yn cysylltu gyda chi i drefnu apwyntiad gan un o’n Peirianwyr Cofrestredig Gas Safe (ar gyfer cyfarpar nwy) i ddod i’ch eiddo a gwasanaethu eich boeler – mae’n bwysig eich bod yn caniatáu mynediad i wneud hyn, oherwydd ei fod yn ofyniad cyfreithiol.
    • Gwnewch yn siŵr bod unrhyw wresogyddion cludadwy wedi’u cynnal a’u cadw yn dda ac mewn cyflwr gweithredol da.
    • Gwiriwch nad yw’r gwresogyddion yr ydych chi wedi’u prynu ar restr galw’n ôl  – mae llawer o danau yn gysylltiedig gyda gwresogyddion sydd wedi’u galw’n ôl.

     

    • Peidiwch â chymryd risg gyda hen wresogyddion – os yw’n un trydan ac yn mynd yn hen, trefnwch i drydanwr cymwysedig ei brofi neu prynwch un newydd.
    • Lle’n briodol, rhowch wresogyddion yn erbyn wal i’w hatal rhag cwympo, neu gosodwch wresogyddion ar y wal.
    • Dylech gadw gwresogyddion ymhell i ffwrdd o ddillad, llenni a dodrefn a pheidio â’u defnyddio i sychu dillad.
    • Dylech bob amser eistedd o leiaf un metr i ffwrdd o wresogydd oherwydd gallai gynnau tân yn eich dillad neu gadair.
    • Cyn ceisio symud eich gwresogydd, diffoddwch a gadewch iddo oeri yn gyntaf.

     

    Pam mae gwresogyddion yn fater o bryder?

    Mae gwresogyddion trydanol yn ffordd dda i gadw’n gynnes – yn arbennig os ydych ond eisiau gwresogi un ystafell. Fodd bynnag, dylid cymryd gofal wrth eu defnyddio.

    • Mae ffigurau yn dangos dros y pum mlynedd diwethaf, bod mwy na 800 o danau wedi’u hachosi gan wresogyddion trydan.
    • Yn drasig, roedd traean o danau trydan a oedd yn cynnwys gwresogyddion yn angheuol.
    • Ymddengys bod mwy o danau yn digwydd pan mae’n oerach.

     

    Mae llawer o resymau pam mae tanau yn cychwyn, ond ymddengys bod tanau sy’n cynnwys gwresogyddion gyda chyfradd uchel o farwolaethau. Efallai bod hyn oherwydd yr amgylchiadau y maent yn cychwyn ynddo:

    • Mae tanau fel arfer yn cychwyn pan fydd dillad gwely, blancedi neu ddillad yn cael eu gosod yn rhy agos at wresogyddion.
    • Mae pobl gyda phroblemau symudedd yn arbennig mewn perygl o faglu neu gwympo ar wresogydd – mae eu gosod ar bellter diogel yn bwysig iawn.

    Gall Adra osod Synwyryddion Carbon Monocsid yn yr holl ystafelloedd sy’n cynnwys cyfarpar llosgi nwy – gall Carbon Monocsid pan fydd yn bresennol fod yn angheuol.  Gall eich gwneud yn gysglyd a llai abl i ddianc.