Cymunedau Caernarfon yn cyfuno i guro Coronafeirws

Mae cymunedau ar draws y wlad wedi cyfuno i gefnogi ei gilydd yn ystod y pandemig yma oherwydd Coronafeirws.

Un o nifer o drefi yng Ngwynedd sydd wedi gwneud ymdrech cymunedol sylweddol ydi Caernarfon. Mae nifer o brosiectau ac ymgyrchoedd wedi cael eu creu er mwyn cefnogi a rhoi cymorth i bobl mwyaf bregus o fewn y cymunedau.

Un enghraifft ydi grŵp Cofis Curo Corona, sef gwasanaeth gwirfoddol  sy’n cynnig pecynau bwyd i drigolion bregus.

Mae Porthi Pawb yng Nghaernarfon hefyd wedi bod yn darparu prydau bwyd cynnes i bobl bregus yr ardal yn wirfoddol.

Rydan ni yn ddarpwr tai lleol yng Ngogledd Cymru ac wrth gwrs, hefo nifer uchel o denantiaid yng Ngwynedd a Chaernarfon yn benodol, ac wedi cyfrannu tuag at yr ymgyrchoedd yma yng Nghaernarfon.

Rydym wedi creu cronfa argyfwng mewn ymateb i Coronafeirws, mae’r arian yn cael ei gyllido gennyn ni, a chwmni Travis Perkins. Bwriad y gronfa ydi taclo caledi ariannol a darparu’r gefnogaeth i fudiadau a gwasanaethau gwirfoddol sy’n rhoi cymorth a chefnogaeth yn y gymuned.

Dywedodd Sarah Schofield, Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chymunedau yma yn Adra:

“Roedden ni yn Adra yn teimlo ei bod yn bwysig iawn creu’r gronfa yma i helpu y cymunedau ydan ni’n gwasanaethu, lle mae llawer o’n tenantiaid yn byw, yn ystod amser mor heriol. Braint ydi i ni fel cwmni lleol i allu rhoi i’r cymunedau a chynnig help llaw.”

Am fwy o wybodaeth ynglyn â’r gronfa, cysylltwch efo Dylan Thomas ar 0300 123 8084/ cymunedol@adra.co.uk