Llun hyrwyddo'r gynhadledd

Cynhadledd lywodraethiant cyntaf o’i bath yn arwain y ffordd yng ngogledd Cymru

 

Bydd cynhadledd cyntaf o’i bath yn cael ei chynnal yn y gogledd y gwanwyn hwn, gan ddod â’r sector preifat, y sector gyhoeddus a’r trydydd sector ynghyd er mwyn rhannu arferion gorau ac annog cydweithio rhwng sefydliadau i sicrhau llywodraethiant da.

Mae’r gynhadledd hon, o’r enw “Llywodraethiant Cymru – Arwain y Ffordd yn 2024” yn cael ei threfnu ar y cyd gan y cwmni cyfreithiol Darwin Gray, Cymdeithas Tai Adra a Menter a Busnes. Bydd yn cael ei chynnal ar ddydd Mawrth 21 Mai yn Nhŷ Gwyrddfai, Penygroes.

Bydd y gynhadledd yn cynnwys siaradwyr sydd yn arweinwyr ac yn arbenigwyr o bob rhan o’r DU. Byddant yn ymdrin ac elfennau academaidd, proffesiynol ac ymarferol wrth geisio rhannu arferion gorau ar sicrhau llywodraethiant da, gan drafod ystod eang o bynciau megis y goblygiadau difrifol o gael llywodraethiant yn anghywir, gwersi a ddysgwyd o sgandalau llywodraethu diweddar, pwysigrwydd recriwtio bwrdd da, ymdrin â datganiadau a gwrthdaro buddiannau, a goblygiadau’r Ddeddf Troseddau Economaidd a Thryloywder 2023 newydd i fyrddau a sefydliadau.

Bydd y gynhadledd yn croesawu amrywiaeth eang o siaradwyr, gan gynnwys Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Derek Walker, Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones, Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, a Gwion Lewis, CB.

Dywedodd Fflur Jones, Partner Rheoli yn Darwin Gray: “Rydym yn falch i fod yn arwain y ffordd gyda’r gynhadledd hon i hyrwyddo, addysgu a rhannu arfer gorau mewn perthynas â llywodraethiant da. O ystyried nifer y sgandalau diweddar o fewn sefydliadau cyhoeddus Cymru a’r DU dros y 18 mis diwethaf, ni fu erioed gyfnod pwysicach i sefydliadau bwyso a mesur, edrych ar eu trefniadau llywodraethiant, ac adolygu pa welliannau y gallant eu cyflwyno i sicrhau bod sefydliadau’n cael eu llywodraethu yn gywir.

Dylai mynychu’r gynhadledd hon fod yn hanfodol i aelodau bwrdd i dimau rheoli busnesau, elusennau a sefydliadau eraill, ni waeth beth yw eu maint.”

Bydd mynychwyr y gynhadledd hefyd ymhlith rhai o’r cyntaf i fwynhau adeilad Tŷ Gwyrddfai ar ei newydd wedd, a fydd yn ganolbwynt datgarboneiddio cyntaf y DU.

Dywedodd Iwan Trefor Jones, Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Tai Adra: “Rydym yn falch iawn o gael cynnal y gynhadledd hon yn Nhŷ Gwyrddfai a gweithio gyda’n partneriaid i gynnig golwg fanwl ar sut mae llywodraethiant da yn edrych. Mae trefniadau llywodraethiant cryf yn hanfodol i bob sefydliad ac edrychwn ymlaen at rannu ein profiadau yn Adra, ond hefyd i ddysgu profiadau gwerthfawr gan eraill sy’n mynychu’r gynhadledd.”

Ychwanegodd Llŷr Roberts, Prif Weithredwr Menter a Busnes: “Ym Menter a Busnes, rydym wedi nodi llywodraethiant da fel galluogwr allweddol yn ein strategaeth gorfforaethol. Mae’r gynhadledd arloesol hon yn gyfle amhrisiadwy i arweinwyr ar draws sectorau amrywiol yng Nghymru ddysgu gan arbenigwyr, rhannu arferion gorau, a meithrin cydweithio. Trwy gydweithio a mabwysiadu egwyddorion llywodraethiant cadarn, gallwn sicrhau bod ein sefydliadau yn gweithredu’n foesegol, yn effeithlon, ac yn y pen draw, yn cyfrannu at ddyfodol mwy disglair i Gymru.”

Bydd y sawl sydd yn archebu tocyn cyn 1 Ebrill 2024 yn cael gostyngiad cynnar o 10% ar bob tocyn. Darganfyddwch fwy am “Lywodraethiant Cymru” ac archebwch eich tocynnau yma: https://bit.ly/governancewalesconf2024