map of Gwynedd and family gaphics

Cynllun llesiant wedi ei lunio ar gyfer Gwynedd a Môn – dweud eich dweud

Mae Adra yn annog tenantiaid a chwsmeriaid i ddweud eu dweud ar Gynllun Llesiant Gwynedd a Môn sydd wedi ei lunio i amlygu blaenoriaethau ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Ngogledd Orllewin Cymru am y pum mlynedd nesaf.

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn wedi’i sefydlu i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yr ardal, gyda’r ffocws ar wasanaethau cyhoeddus yn cydweithio. Rhaid i bob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus baratoi a chyhoeddi Cynllun Llesiant ac mae ymgynghoriad ar y gweill ar y cynigion diweddaraf.

Mae’r Bwrdd yn gofyn am sylwadau ar dair prif flaenoriaeth: yr angen i liniaru effaith tlodi ar les cymunedau; cydweithio i flaenoriaethu llesiant a chyflawniadau plant a phobl ifanc a chefnogi cymunedau i symud tuag at Ddi-Garbon Net.

Dywedodd Sarah Schofield, Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chymunedau Adra: “Mae’r ymgynghoriad yn bwysig iawn gan ei fod yn canolbwyntio ar rai o’r materion mawr sy’n effeithio ar gymunedau ar draws Gogledd Orllewin Cymru.

“Mae llawer o’r materion hyn eisoes yn flaenoriaeth i Adra ac rydym wedi sefydlu partneriaethau gwych sy’n gweithio gyda’u gilydd i wella bywydau yn ein cymunedau.

“Byddwn yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn ond mae hefyd yn gyfle gwych i’n tenantiaid a’n cwsmeriaid leisio’u barn. Byddem yn annog pobl i fynd ar-lein a chwblhau’r arolwg erbyn y dyddiad cau ar 6 Mawrth”.

Dyma’r ddogfen ymgynghori lawn:

3-5-3-211-2-Cynllun-Llesiant-Drafft-Bwrdd-Gwasanaethau-Cyhoeddus-Gwynedd-a-M244n-2023-28.pdf (llesiantgwyneddamon.org)

I lenwi’r holiadur, ewch i: Ymgynghoriad Cynllun Llesiant Drafft Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn 2023-28 (llyw.cymru)