Cyrraedd y rhestr fer am driawd o wobrau cenedlaethol

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer tair gwobr tai genedlaethol am fynd yr filltir ychwanegol i gefnogi eu cymunedau drwy gydol y pandemig. 

Mae ein ymateb cyflym i COVID-19, gan gydweithio hefo ein partneriaid gan gynnwys Cyngor Gwynedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Mantell Gwynedd, Cyngor ar Bopeth, Mentor Môn a Grŵp Cynefin gyda’n menter Gyda’n Gilydd sy’n darparu cymorth ychwanegol i bobl sydd mewn perygl ledled Gwynedd, wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghategori Cefnogi Cymunedau yng Ngwobrau Sefydliad Chartered Institute of Housing. 

Mae ein tîm rheng flaen, Bro, sy’n cefnogi cwsmeriaid yn eu cymunedau hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghategori Tîm Tai’r Flwyddyn ac rydym hefyd wedi cyrraedd Rownd Derfynol y Wobr Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cwsmer am ein gwaith ymgysylltu â chwsmeriaid drwy gydol y cyfnod mwyaf heriol. 

Mae Gwobrau’r Sefydliad Tai Siartredig yn cydnabod ac yn dathlu creadigrwydd, angerdd ac arloesedd cymdeithasau tai ac unigolion ar draws y sector yng Nghymru. 

Dywedodd Sarah Schofield, ein Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chymunedau yma yn Adra: 

“Rydym yn falch iawn o fod wedi cyrraedd y rownd derfynol mewn tri o wobrau CIH Cymru, sydd ymhlith y rhai mwyaf mawreddog yng nghalendr tai Cymru. Mae hyn yn gydnabyddiaeth o ymrwymiad ein timau a’n partneriaid i fynd y filltir ychwanegol honno bob amser i gefnogi ein cwsmeriaid, sydd wedi bod hyd yn oed yn fwy hanfodol drwy gydol y pandemig.  

“Rydym hefyd yn cael ein gyrru i weithio gyda phartneriaid i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i’n cwsmeriaid a’r cymunedau rydym yn gweithio ochr yn ochr â nhw ar draws Gogledd Cymru.” 

Rydym yn ddarparwr tai fforddiadwy cofrestredig mwyaf yng Ngogledd Cymru ac rydym yn darparu gwasanaethau i fwy na 14,000 o gwsmeriaid ar draws 6,300 o gartrefi.  

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni Wobrwyo rithiol ar Medi 30.