Clwt y bont delwedd

Darparu cartrefi fforddiadwy ar gyfer cymunedau gwledig

Da ni wedi ymuno â’r contractwr lleol R L Davies i adeiladu 9 tŷ fforddiadwy yng Nghlwt y Bont.

Dyma gynllun gwerth £1.6 miliwn i ddarparu 9 tŷ rhent cymdeithasol fforddiadwy ar gyfer Clwt y Bont a’r ardal gyfagos.

Bydd chwe thŷ dwy lofft a dau dŷ tair llofft yn cael eu hadeiladu fel rhan o’r cynllun. Bydd byngalo wedi ei addasu yn arbennig yn cael ei adeiladu hefyd er mwyn cwrdd ag anghenion teulu lleol.

Dywedodd Daniel Parry, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Asedau Adra: “Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio efo R L Davies ar y datblygiad yma mewn ardal lle mae yna lawer iawn o alw. Mae R L Davies yn gwmni lleol a phrofiadol wedi eu lleoli ym Mae Colwyn a bydd y gwaith yn dod â buddion economaidd sylweddol i’r ardal drwy’r cynllun cyffrous yma gan gynnwys cyfleoedd am swyddi a hyfforddiant.

“Fel sefydliad blaengar sy’n tyfu, ein hamcan yw adeiladu 550 o gartrefi newydd ar draws Gogledd Cymru erbyn 2022. Wrth i ni barhau i gryfhau ein perthynas gyda chontractwyr a datblygwyr, ein bwriad yw cwrdd ag anghenion tai a rhoi cartrefi fforddiadwy ac o safon i bobl yn eu cymunedau lleol.”

Ychwanegodd Delyth Davies o R L Davies: “Rydym ni gyd yma yn RLD yn falch iawn ein bod wedi cael ein penodi yn brif gontractwr gan Adrai adeiladu’r 9 tŷ fforddiadwy yma yng Nghlwt y Bont. Bydd yr eiddo fforddiadwy newydd yma, a fydd yn cynnwys byngalo anghenion arbennig ar gyfer teulu lleol, yn ased gwych i’r gymuned a bydd yn helpu Adra i gyflawni ei weledigaeth o ddarparu 550 o gartrefi newydd fforddiadwy i bobl sydd angen tai erbyn 2022.

“Mae ein cymuned yn bwysig i ni fel cwmni ac rydym yn edrych ymlaen at gynnig pecynnau gwaith i gwmnïau lleol, cynnig cyflogaeth leol ynghyd â phrofiad gwaith a lleoliadau gwaith gan hyrwyddo’r iaith Gymraeg drwy hyn oll.”

Rhagwelir y bydd y tai yn barod erbyn hydref 2020. Os oes gennych ddiddordeb rhentu un o’r cartrefi yma gan Adra, cofrestrwch eich diddordeb gyda Thîm Opsiynau Tai Gwynedd ar 01286 685100 neu opsiynautai@gwynedd.llyw.cymru

Caiff y cynllun hwn ei ariannu drwy grant Llywodraeth Cymru ac arian preifat drwy Adra.