Dathlu Dydd Gŵyl Dewi yn ein cymunedau a’n swyddfeydd

Pleser oedd dathlu Dydd Gŵyl Dewi i ni yma’n Adra eleni.

Gwisgodd ein staff ddillad lliw coch yn ein swyddfeydd ac roeddem wedi addurno’r swyddfeydd hefo cennin Pedr. Roedd cacen gri ar gael i aelodau staff hefyd.

Ond yn ogystal á hynny, roeddem yn cymryd rhan mewn digwyddiad a gweithgaredd arbennig ym Maesgeirchen, Bangor fel rhan o’r wythnos o ddathliad Dydd Gŵyl Dewi a gweithgareddau oedd wedi ei drefnu ar gyfer yr wythnos gan Fenter Iaith Bangor.

Fe gafodd disgyblion Ysgol Gynradd Glancegin fore o blannu, wedi ei drefnu ar y cyd rhwng Maes Ni ac Adra. Plannu gwlâu blodau ar yr ardaloedd gwyrdd o amgylch Llys Dylan, Maesgeirchen oedd y bwriad gyda chefnogaeth partneriaid. Yn ychwanegol, roedd cyfle i’r disgyblion gyd-weithio efo Partneriaeth Maesgeirchen a’r Cynghorydd Nigel Pickavance i blannu potiau blodau. Yn dilyn plannu y potiau, roedd cyfle i’r disgyblion ddosbarthu y potiau fel anrheg i’r bobl hýn cyfagos. Roedd yr elfen yma o’r prosiect yn cael ei gyllido ac yn ran o brosiect Pontio’r Cenedlaethau, Cyngor Gwynedd.

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Pickavance:

“Dyma enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth i ddathlu’r digwyddiad. Roedd yr henoed wrth eu bodd efo’r gwlau blodau, potiau blodau a’r gacen gan y gymuned. Yr holl wnaethom oedd ategu neges Dydd Gwyl Dewi- Gnewch y oethau bychain!“

Dywedodd Sion Eifion Jones, Swyddog Prosiectau Cymunedol Adra:

“Pleser oedd cael gweld disgyblion Ysgol Glancegin yn mwynhau plannu blodau a chwblhau gwaith da, er budd y gymuned o’u hamgylch fel dathliad dydd Gŵyl Dewi.”

“Diolch i’r partneriaid i gyd am eu cefnogaeth ac am alluogi ni i gynnal y prosiect. Mae nifer o gwsmeriaid Adra’n byw yn yr ardal yma felly roeddem yn falch iawn cael bod yn rhan o’r prosiect yma.”