Digwyddiad cyntaf o’i fath yn Nhŷ Gwyrddfai

Cyflwynodd Ruth-Marie Mackrodt, un o gyfarwyddwyr Wool Insulation Wales eu hinswleiddiad gwlân Cymreig arbennig i ystafell llawn pobl ddylanwadol o Ogledd Cymru.

Roedd y gynulleidfa yn gymysg da o gymdeithasau tai, penseiri, datblygwyr, cyflenwyr a chontractwyr. Ar y diwedd roedd cyfle i bawb holi Ruth-Marie am y cynnyrch, sgwrsio a rhwydweithio dros ginio ysgafn.

Gobeithio bydd mwy o ddigwyddiadau fel yma yn digwydd yma yn y dyfodol.

Os hoffwch wybod mwy am gynnal y math yma o ddigwyddiad yn ein hwb datgarboneiddio ym Mhenygroes, cysylltwch gyda ni ar cyfathrebu@adra.co.uk