Diweddariad Coronafeirws – Cau ein Swyddfeydd

Diweddariad CoronafeirwsCau swyddfeydd Adra 

O 17:00 ddydd Mercher 18 Mawrth, bydd ein swyddfeydd yn

  • Porthmadog
  • Dolgellau
  • Caernarfon
  • Parc Menai Bangor

ar gau i denantiaid sy’n ymweld, cwsmeriaid ac unrhyw ymwelwyr eraill tan y clywir yn wahanol. Rydym wedi penderfynu hyn ar  ôl ystyried cyngor rhagofalus y Llywodraeth er mwyn lleihau’r risg o ledaenu’r feirws. 

Sut i gysylltu â ni

Os ydych yn cysylltu â ni, efallai na fyddwn yn gallu dod nol atoch mor gyflym ac y byddech yn dymuno. Gallwch gysylltu â ni yn y ffyrdd arferol – mae ein llinellau ffôn dan bwysau mawr ar hyn o bryd felly rhowch gynnig a’r un o’r ffyrdd eraill o gysylltu â ni os yn bosib

  • cwblhewch ein ffurflen ar-lein
  • anfonwch e-bost: ymholiadau@adra.co.uk
  • anfonwch neges i ni ar un o’n sianelau cyfryngau cymdeithasol: @adrataicyf
  • anfonwch lythyr: Adra, Coch, Llys y Dderwen, Parc Menai, Bangor, LL57 4BL 
  • codi’r ffôn: 0300 123 8084