Staff from Adra, Cyngor Gwynedd, Keep Wales Tidy at a Clean up day in Talysarn

Diwrnod Amgylcheddol Adra yn Nhalysarn

Fe gafodd Diwrnod Amgylcheddol ei gynnal o fewn cymunedau a stadau o dai Adra yn Nhalysarn yr wythnos hon.   

 Roedd hyn yn rhoi cyfle i’n cwsmeriaid ddod â’u gwastraff i sgipiau roedd Adra wedi gosod mewn lleoliad penodol yn ogystal â chasglu gwastraff o amgylch y stadau a chymunedau.  

 Y bwriad oedd hybu ailgylchu ac ennyn balchder am y cymunedau mae cwsmeriaid yn byw a lleihau tipio anghyfreithlon.   

 Roedd Adra yn hynod o falch o gael cydweithio gyda thîm ailgylchu Cyngor Gwynedd oedd yn bresennol a Cadw Cymru’n Daclus oedd yn rhoi cyngor i’n cwsmeriaid am arbed arian a nwyddau cartref di-angen.  

Dywedodd Sion Eifion Jones, Swyddog Prosiectau Cymunedol Adra: 

“Diolch yn fawr iawn i’n holl bartneriaid am wneud i’r digwyddiad yma weithio, a diolch i’n holl gwsmeriaid a ddaeth i gymryd rhan. Mae mor braf gweld balchder cymunedol a phawb yn dod at ei gilydd i edrych ar ôl ein cymunedau a sicrhau ein bod yn gyfeillgar at yr amgylchedd.” 

Fe gafodd pedwar sgip ei lenwi ac roedd angen saith trip i’r ganolfan ailgylchu gyda faniau y Cyngor.