Three officers standing with a heated blanket and heat packs

Diwrnod Ymwybyddiaeth Tlodi Tanwydd

Mae dydd Iau 30 Tachwedd yn ddiwrnod Cenedlaethol Ymwybyddiaeth Tlodi Tanwydd

Heddiw fuodd Prosiect Sero Net Gwynedd draw yn Porthi Dre yn Gaernarfon yn rhoi cyngor ac yn dosbarthu blancedi wedi’i gynhesu a pecynnau gwres.

Hwb Cymunedol yn dref Gaernarfon yw Porthi Dre, sydd yn cefnogi trigolion ardal Caernarfon wrthi porthi bwyd, dillad a mwy.

Dywedodd Gwen Thomas, Rheolwr Prosiect Sero Net Gwynedd: “Rydym yn falch o allu ymrwymo i gynnig cymorth i drigolion Gwynedd ar sut i wella effeithlonrwydd o fewn eu cartrefi ac i leihau eu costau ynni.

“Wrth i’r gaeaf agosáu, mae’n amgylgu’r angen sydd yn ein cymunedau am gymorth gyda gwresogi eu cartrefi, Gwynedd sydd â’r gyfradd tlodi tanwydd uchaf yng Nghymru, gyda 23 y cant yn cael trafferth gyda chostau cynyddol.

“Mae Prosiect Sero Net Gwynedd yn partneriaeth rhwng nifer o sefydliadau ledled Gwynedd, gyda’r nod o ddangos ymateb cydweithredol, arloesol a rhagweithiol i’r angen i ddatgarboneiddio ein tai a’n cymunedau.”

Am gymorth gyda Costau Byw: https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Trigolion/Costau-Byw/Costau-Byw.aspx