Dod at ein gilydd i sicrhau fod plant yn cael anrheg Nadolig

Rydan ni a’r cwmnïau drysau Bamford wedi dod at ein gilydd i sicrhau fod gan blant teuluoedd sy’n mynd drwy amser heriol, deganau i chwarae hefo nhw dros y Nadolig.
Pob blwyddyn, mae aelodau staff Bamford a’u partneriaid allweddol fel CAME a Baydale Control Systems yn prynu un anrheg newydd yr un i’w gyfrannu i gasgliad anrhegion Nadolig y cwmni ac maent wedyn yn dewis achosion da i roi’r anrhegion.
Dewisodd Bamford Adra eleni fel partner, a rydym ni wedi penderfynu cydweithio hefo Gorwel, i roi’r anrhegion i deuluoedd sydd eu hangen yn ystod cyfnodau heriol, dros y Nadolig. Mae Gorwel yn cefnogi llawer o gwsmeriaid a thenantiaid Adra sy’n wynebu trais yn y cartref neu mewn risg o ddigartrefedd. Mae Gorwel yn darparu ystod o wasanaethau cymorth i bobl hŷn, pobl sy’n cael eu heffeithio gan gamdriniaeth ddomestig a digartrefedd.
Dywedodd Elin Williams, ein Rheolwr Partneriaethau a Chymunedau yma’n Adra:
 “Mae Adra yn awyddus i greu budd i’n cymunedau drwy ein gwaith, a diolch i’n partneriaid Bamford Doors am eu haelioni eleni.  Bydd yr anrhegion yn mynd tuag at gefnogi teuluoedd yn ein cymunedau yn ystod cyfnod sydd yn medru bod yn anodd iawn i lawer. Rydym wedi dewis cyfrannu’r anrhegion i Gorwel, sef partner rydym yn gweithio’n agos hefo nhw i gefnogi ein tenantiaid.
Dywedodd Katie Jones o Gorwel:
 “Rydym wedi derbyn anrhegion Nadolig i’w rhoi i blant drwy Bamford Doors ac Adra ac rydym wir yn gwerthfawrogi’r anrhegion yma.
 “Rydym yn gweithio hefo teuluoedd sydd angen lloches ac yn cefnogi teuluoedd yn eu cymunedau. Bydd yr anrhegion yma i’r plant yn rhoi pleser iddynt yn ystod cyfnod anodd. Diolch.”
 Dywedodd Alexis Smith, Rheolwr Gyfarwyddwr Bamford Doors:

“Mae hon yn fenter rydym yn falch o gymryd rhan ynddi bob blwyddyn ac eleni rydym wedi dewis Adra fel cymdeithas dai yng Nghymru, rydym bellach wedi gollwng y teganau i ffwrdd ac yn gobeithio y bydd plant yr ardal mewn angen yn eu mwynhau.”