Llun o'r ymweliad

Dod i adnabod ein cymunedau a’n tenantiaid

Roedd hi’n wych cael mynd allan yn y gymuned eto ar gyfer y diweddaraf yn ein rhaglen cerdded o amgylch ystadau.

Y tro hwn roedd y tîm Cynnwys Cymunedol yn sir Conwy ac yn ymweld â Pharc Pentywyn yn Neganwy ger Llandudno, yn ogystal â Phlas Hwylfryn ym Mhenmaenmawr.

Mae rhaglen o ymweliadau ar waith ar gyfer gweddill 2023.

Dywedodd Sion Eifion Jones, Swyddog Prosiectau Cymunedol Adra: “Mae’r teithiau stad yn gyfleoedd gwych i ddod i adnabod ein tenantiaid a’n cymunedau.

“Mae’n gyfle i’n tenantiaid dynnu sylw at unrhyw broblemau, o unrhyw eitemau sydd wedi torri yn y cartref i bryderon cymunedol. Rydym hefyd yn cynnig cyngor a chefnogaeth gan ein wardeniaid ynni, cyfleoedd ar gyfer swyddi a hyfforddi a darganfod sut y maent yn dymuno cyfathrebu â ni yn y dyfodol”.

 

Llun o'r ymweliad.